Heddlu yn ymchwilio lladrad o siop fetio Corbett yn Y Rhyl

Cafodd aelod o staff mewn siop fetio yn Y Rhyl ei fygwth gyda morthwyl gan ddau ddyn oedd yn dwyn arian parod o'r siop.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio'r lladrad a ddigwyddodd yn siop Corbett, ar ffordd Cefndy, nos Iau, Chwefror 13, am 20.30.

Roedd un o'r dynion yn gwisgo hwdi llwyd a sgarff lliw tywyll tra roedd y llall yn gwisgo hwdi du, menyg gwyn ac roedd yn cario bag lliw gwyrdd llachar gyda streipiau melyn.

Mae'r Heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacla, yn ddienw os oes rhaid, ar 0800 555111

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.