Clirio'r difrod wedi gwyntoedd 100mya nos Fercher

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiadau Aled Hughes ac Aled Scourfield

Mae'r gwaith o glirio'r difrod gafodd ei achosi gan wyntoedd o dros 100mya wedi dechrau dros Gymru ddydd Iau.

Nos Iau roedd peirianwyr yn gweithio i geisio adfer y cyflenwad trydan i ryw 18,000 o dai yn y canolbarth a'r gogledd ac roedd rhyw 1,000 o dai yn y de'n parhau i fod wedi eu heffeithio.

Roedd 100,000 o dai heb drydan am gyfnod, wedi i dywydd garw iawn daro'r arfordir.

Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud nad oedd yn gwybod a fyddai mwy o arian yn dod i Gymru o'r Trysorlys er mwyn helpu'r gwaith clirio.

Ond daeth cadarnhad nos Iau gan lywodraeth y DU mai "mater i Lywodrhaeth Cymru yw gwariant ar amddiffyn rhag lifogydd a ffyrdd" ac na fydd Cymru felly'n derbyn mwy o arian.

230 o alwadau brys mewn awr

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn 714 o alwadau 999 dros gyfnod o 24 awr, ddwywaith yn uwch na'r nifer arferol ac yn sylweddol uwch na nifer galwadau ar nos Galan hyd yn oed.

Roedd y cyfnod prysuraf rhwng 5 a 6 o'r gloch nos Fercher pan y bu'n rhaid i ganolfan alwadau'r heddlu ddelio gyda 230 o alwadau brys.

Image caption Cafodd darn o do Gorsaf Rheilffordd Porthmadog ei chwythu i ffwrdd o'r adeilad.

Roedd y galwadau yn amrywio o goed wedi syrthio ar draws ffyrdd, lorïau wedi cwympo ar eu hochr, damweiniau ffyrdd, llifogydd a thân ar fferm wynt.

Yn y môr oddi ar arfordir Cemaes ar Ynys Môn, fe aeth dau dyrbin gwynt ar dân. Mae'n ymddangos nad oedd eu moduron yn gallu ymdopi gyda'r gwyntoedd cryfion.

Mae gwaith atgyweirio brys wedi ei wneud i'r Cae Ras yn Wrecsam, yn sgil difrod gan y gwynt nos Fercher, er mwyn sicrhau bod yr ardal o amgylch y stadiwm yn saff.

Mae coeden fawr wedi syrthio ar do meddygfa yng Nghonwy ac mae adroddiadau hefyd bod to capel Mydroilyn yng Ngheredigion wedi chwythu i ffwrdd yn llwyr.

Trafferthion teithio

Ym Mhrenteg, mae'r A498 ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Prenteg ac Aberglaslyn, gan effeithio ar y traffig rhwng Porthmadog a Beddgelert, ac yn ardal Maentwrog, mae'r A496 o'r ddau gyfeiriad ar gau wedi i goeden ddisgyn ger y troad am Allt Goch

Ym Mhen Llyn, mae'r A499 i'r ddau gyfeiriad ar gau rhwng Llanbedrog ac Abersoch, ac yng Nghaernarfon, mae'r A4085, Ffordd Cwstenin, ar gau i'r ddau gyfeiriad, gan fod coeden wedi disgyn rhwng Rhes Gwstenin a Ffordd Eryri - mae hon ar y ffordd ger Caer Rhufeinig Segontiwm.

Yn Wrecsam, mae'r A541, Ffordd yr Wyddgrug, yn araf, gyda'r ffordd allan o'r dre lawr i un lôn.

Ar Ynys Môn, ma'r A545 ym Miwmares ar gau rhwng Allt Goch Bach a Lon Bryn Teg gan fod coeden wedi disgyn.

Image caption Gwaith atgyweirio ar do'r Cae Ras

Roedd trafferthion yn ystod y bore yn ardal Felinheli gan bod yr heddlu wedi cau ffordd yr A487 er mwyn gwneud lle i'r holl lorïau oedd yn disgwyl croesi i Ynys Môn.

Roedd yr A55 Pont Britannia wedi bod ar gau wedi i lori droi drosodd yno ddydd Mercher oherwydd y gwynt. Fe gafodd y gyrrwr ei arestio am yrru'n ddiofal.

Mae Heddlu'r Gogledd yn rhybuddio bod amodau'n anodd o hyd er bod y tywydd fel pe bai'n gostegu, ac yn cynghori gyrrwyr i gynllunio ymhell o flaen llaw neu hyd yn oed gohirio'u taith.

Gweddill y ffyrdd

Mae nifer o broblemau wedi bod ar ffyrdd y canolbarth a'r de hefyd.

Mae ffordd yr A44 ar gau ym Mhonterwyd, Ceredigion, oherwydd nifer y coed sydd wedi disgyn ar draws y ffordd, ac yn Llanelli, mae'r A484 ar gau, eto i'r ddau gyfeiriad rhwng cylchfan Parc Trostre a Stepney Place.

Yn Nant-y-moel, Pen-y-bont ar Ogwr, ma'r A4061, Heol Ogwy, ar gau i'r ddau gyfeiriad gan bod adeilad yn anniogel, ac mae un lôn ar yr hen Bont Hafren wedi'i chau.

Yn y canolbarth, mae'r A4042 ar gau yn ardal y Fenni, rhwng cylchfan Harwick a Llanelen.

Yn y Trallwng ma'r A490 ar gau i'r ddau gyfeiriad oherwydd llifogydd, rhwng cylchfan Sarn Bryn Caled a phont Cilcewydd.

Gellir gweld y manylion diweddaraf am y rheilffyrdd ar wefannau Arriva a First Great Western. Ar hyn o bryd, does dim gwasanaeth trên rhwng Machynlleth ac Aberystwyth, na rhwng Blaenau Ffestiniog a Chyffordd Llandudno.

Mae manylion rhybuddion llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Roedd nifer o ysgolion ar gau ddydd Iau yn Sir Benfro, Ceredigion, Môn, Gwynedd, Sir Ddinbych a Wrecsam

Mae Ysgol Ardurdwy, Harlech wedi dweud y bydd yr ysgol hon ar gau eto ddydd Gwener oherwydd difrod, ond mae eraill yn ailagor.

Arian y Trysorlys?

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Carwyn Jones yn sôn am ymateb Llywodraeth Cymru i'r tywydd garw a darodd arfordir y gogledd a'r gorllewin ddydd Mercher.

Ar raglen y Post Cyntaf, bu'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn rhoi teyrnged i'r gwasanaethau brys a'r cwmnïau trydan am eu gwaith, ac yn trafod a fyddai arian ychwanegol ar gael i glirio'r trafferthion yng Nghymru wedi i David Cameron ddweud ei bod yn fater o "money no object" ar ôl y storm.

Dywedodd Mr Jones: "Fedrwn ni ddim bod mor hael - ni'n methu benthyg arian a methu codi arian, ond mae yna system lle mae cynghorau'n gallu gofyn am arian ychwanegol.

"Mae rhai wedi gwneud yn barod ac ry'n ni'n ystyried bob cais. Y broblem yw dy'n ni ddim yn gwybod beth fydd y gost eto achos dyw'r tywydd ddim wedi mynd."

Ychwanegodd bod rhaid aros i weld sut mae Llywodraeth y DU yn talu am y gwaith o glirio cyn gwybod beth fydd sefyllfa Cymru a'u bod eisoes wedi ysgrifennu at y Trysorlys i gael gwybod.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.