Pen-blwydd nodedig BBC Cymru

Fo a Fe
Image caption 'Fo a Fe' oedd un o'r ffefrynnau pan gafodd arolwg barn ei gynnal o hoff raglenni staff BBC Cymru yn ddiweddar.

Roedd hi'n foment arwyddocaol yn hanes darlledu'r genedl - ar 9 Chwefror 1964, fe ddaeth BBC Cymru Wales i fodolaeth.

Am y tro cyntaf roedd gwasanaeth teledu i Gymru gyfan, heb orfod rhannu'r amserlen gyda rhanbarthau Lloegr.

Roedd rhaid codi mast newydd yn ardal Gwenfô ar gyrion Caerdydd er mwyn lledaenu'r donfedd newydd, ac roedd hi'n beth amser eto tan y byddai'r gwasanaeth newydd ar gael ym mhob ystafell fyw yng Nghymru.

Roedd gwasanaeth cynnar BBC Cymru yn cynnwys y rhaglenni materion cyfoes "Heddiw" a "Wales Today", gyda rhaglenni arbennig yn Gymraeg o'r Sioe Frenhinol a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd dramâu a rhaglenni nodwedd fel "Ryan a Ronnie" hefyd yn rhan o'r amserlen yn y blynyddoedd ar ôl lansiad y donfedd newydd.

Bu BBC Cymru yn gartref i holl raglenni Cymraeg y gorfforaeth tan ddyfodiad S4C yn 1982, pan symudodd rhaglenni fel Newyddion a Pobol y Cwm i'r sianel newydd.

Mae BBC Cymru yn parhau i gynhyrchu tua 570 o oriau o raglenni'r flwyddyn ar gyfer S4C.

Atgofion braf

Yn ôl cyfarwyddwr presennol BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, roedd creu tonfedd deledu newydd i Gymru gyfan yn arwyddocaol i'r genedl.

Dwedodd Mr Davies: "Roedd gan Gymru - am y tro cyntaf - ei gofod cyhoeddus ei hun, ei llwyfan Cenedlaethol ei hun, ar y cyfrwng mwyaf pwerus ohonyn nhw i gyd.

"Gofod lle gallai cenedl ddarganfod ei llais ei hun yn ddyddiol - ac archwilio ei hunaniaeth, ei thirlun, ei phobol a'i diwylliant.

"Byddai BBC Cymru yn helpu i ddod â Chymru at ei gilydd mewn ffordd na allai unrhyw welliannau i'r A470 eu cyflawni."

Un sydd wedi bod yn rhan o ddarllediadau BBC Cymru ers y 70au yw Beti George, sydd ag atgofion braf o'r blynyddoedd cynnar.

"Yr hyn dwi'n ei gofio ydy cael fy rhyfeddu at y creu oedd yn digwydd, roedd e'n gyfnod lle roedd creadigrwydd yn rhyfeddol dwi'n meddwl."

Ond mae'r ddarlledwraig yn awyddus i BBC Cymru wneud rhagor i adlewyrchu'r Gymru gyfoes, ac mae hi'n aelod blaenllaw o'r ymgyrch i sefydlu rhaglen nosweithiol tebyg i Newsnight yn Gymraeg a Saesneg.

"Dydy pobol Cymru ddim yn sylweddoli beth yw pŵer y llywodraeth yn y Bae, a beth mae'n ei olygu iddyn nhw yn eu bywydau pob dydd.

"Dydyn nhw ddim yn sylweddoli, a'r unig ffordd ddaw nhw i sylweddoli yw ei weld e ar y teledu, hynny yw, fe ddylai fod yna rhaglen nosweithiol - Newsnight Cymru - yng Nghymru."

Mae cynyrchiadau Saesneg BBC Cymru i'w gweld yn boblogaidd gyda gwylwyr y brif sianel, wrth i filiwn ohonyn nhw ddewis gwylio'r rhaglenni Cymreig ar BBC One Wales bob wythnos.

Ac yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r BBC wedi dewis datblygu Caerdydd fel canolfan ar gyfer cyfresi drama'r rhwydwaith. Mae stiwdios Porth y Rhath yn cynhyrchu Doctor Who, Sherlock, Casualty a chyfresi eraill ym Mae Caerdydd ac mewn amryw o leoliadau ar hyd a lled Cymru.