Tân mewn ffatri yn y Trallwng

Mae'r gwasanaeth tân wedi bod yn diffodd tân mewn ffatri yn y Trallwng ym Mhowys fore Iau

Roedd tri chriw o'r Trallwng a Threfaldwyn wedi cael eu galw i'r uned ar Lôn Henfaes yn y dre toc wedi 6.20 y bore.

Roedd y tân wedi dechrau mewn uned echdynnu ddiwydiannol ar lawr y ffatri.

Fe gafodd y tân ei ddiffodd ac fe ddefnyddiwyd ffan bwerus i glirio'r mwg.

Chafodd neb ei anafu.