Apêl yn dilyn lladrad arfog yn Llanelwy

Mae'r heddlu eisiau gwybod mwy wedi lladrad arfog mewn siop yn Llanelwy nos Wener.
Tua 10.30yh aeth dau ddyn i mewn i siop City News & Video ar Stryd Caer yn y ddinas. Mae swyddogion yn credu bod ganddyn nhw forthwyl.
Fe orfodon nhw'r person y tu ôl i'r cownter i wagio't til cyn dianc gyda'r arian parod.
Fe gafodd y ddau eu gweld yn rhedeg i gyfeiriad Stryd Gemig.
Gwisgdebyg
Mae un dyn yn wyn, oddeutu pum troedfedd a phedair modfedd o daldra, ac yn denau. Roedd ganddo wallt byr, du ac roedd ganddo jîns, het wlân ddu a thop tracwisg amdano.
Mae'r llall yn wyn ac yn dal. Roedd ganddo wisg debyg - jîns, het wlân dywyll a thop tracwisg.
Rwan, mae heddlu am siarad ag unrhywun oedd yn yr ardal nos Wener.
Gall unrhywun â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod R014981, neu drwy alw Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.