Cymdeithas yn gweithredu dros yr iaith

Cymdeithas Image copyright Cymdeithas yr Iaith
Image caption Mae'r gymdeithas eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy dros yr iaith

Mae ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal nifer o ralïau ledled Cymru er mwyn protestio yn erbyn yr hyn maen nhw'n ystyried i fod yn ddiffyg camau ar ran y llywodraeth i hybu'r iaith.

Mae eu haelodau wedi bod yn dadorchuddio baneri ar bontydd dros y wlad fel symbol o'r ffaith eu bod eisiau gweld y llywodraeth yn dilyn eu hesiampl gan "groesi'r bont i fyw yn Gymraeg".

Mae'r gymdeithas wedi gofyn i'r Prif Weinidog Carwyn Jones addo gweithredu mewn chwe maes polisi, ac yn anhapus gyda'i ymateb hyd yn hyn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "siomedig" gyda phenderfyniad y gymdeithas i weithredu a'u bod nhw eisoes yn gweithredu polisïau sy'n gefnogol i'r Gymraeg.

'Ap a gwefan ddim yn ddigon'

Yn dilyn canlyniadau Cyfrifiad 2011 oedd yn dangos fod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y llywodraeth i weithredu polisïau newydd.

Maen nhw eisiau eu gweld yn sicrhau:

  • Addysg Gymraeg i bawb
  • Tegwch ariannol i'r Gymraeg;
  • Gweinyddu'n fewnol yn Gymraeg;
  • Safonau iaith i greu hawliau clir;
  • Trefn cynllunio er budd ein Cymunedau;
  • Bod y Gymraeg yn greiddiol i ddatblygu cynaliadwy.

Dyw'r llywodraeth heb ddangos bwriad i wneud hyn eto yn ôl y gymdeithas, a ddywedodd: "Yn lle hynny, ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddodd y prif weinidog y byddai'n datblygu ap a gwefan newydd ac ymgyrch pump y dydd i annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg."

Dywedodd cadeirydd y gymdeithas, Robin Farrar: "Dros flwyddyn ers canlyniadau'r Cyfrifiad, mae'n hen bryd i'r llywodraeth gyflwyno newidiadau polisi a fydd yn galluogi pawb yn ein gwlad i fyw yn Gymraeg.

"Rydyn ni'n galw ar y llywodraeth i weithredu o ddifrif mewn chwe maes penodol, er mwyn sicrhau bod yr iaith yn tyfu. Gydag ewyllys gwleidyddol gall bethau newid, ond hyd yn hyn mae ymateb y llywodraeth wedi bod yn chwerthinllyd.

"Ni fydd gwefan ac ap newydd yn ymateb digonol i'r argyfwng - mae angen cymryd camau uchelgeisiol mewn meysydd addysg, cynllunio ac ariannu.

"Gobeithio y bydd ein protestiadau yn eu sbarduno i weithredu."

'Siomedig'

Image caption Mae' gymdeithas wedi bod yn dadorchuddio baneri ar nifer o bontydd

Mae'r gymdeithas yn cynnal protestiadau hyd a lled Cymru dros y penwythnos, gan ddadorchuddio baneri gyda sloganau arnyn nhw ar bontydd.

Byddan nhw'n cynnal yr ymgyrch ar Bont Menai, ochr Gwynedd, Pont Cysylltau, Wrecsam, Pont ar Ddyfi, ger Machynlleth, Pont Aberteifi, wrth y Cei, Pont Llandeilo a'r Hen Bont Hafren.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan eu siom gyda'r gymdeithas am benderfynu gweithredu yn y modd yma.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Rydym yn siomedig iawn bod Cymdeithas yr Iaith wedi penderfynu gweithredu yn y modd hwn, yn enwedig gan ein bod ni wedi cynnal deialog rheolaidd, ac adeiladol, gyda'r grŵp.

"Dros y flwyddyn ddiweddaf rydym wedi cymryd camau cadarnhaol i hyrwyddo'r iaith Gymraeg, gan gynnwys camau pwysig fel cyhoeddi safonau arfaethedig i wella gwasanaethau Cymraeg i bobl.

"Nid ni yn unig sy'n dweud hyn - dywedodd arbenigwyr Cyngor Ewrop yn ddiweddar bod Llywodraeth Cymru yn darparu ymrwymiad cryf i'r iaith."

'Camau cadarnhaol'

Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod nhw eisoes wedi cymryd "camau cadarnhaol" er mwyn hyrwyddo'r iaith, gan gynnwys:

  • Cyhoeddi'r set gyntaf o safonau drafft, a fydd yn gwella gwasanaethau Cymraeg i bobl ar draws Cymru;
  • Cyhoeddi TAN 20 diwygiedig;
  • Rhoi Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar sail statudol, sy'n golygu ei fod yn ofynnol i awdurdodau lleol, o dan amgylchiadau penodol, fesur y galw am addysg cyfrwng Cymraeg;
  • Cyhoeddi y byddwn yn neilltuo £90,000 ychwanegol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Ond dyw hyn ddim yn ddigon, yn ôl Cymdeithas yr iaith.

Straeon perthnasol