Zaha'n ymuno â Chaerdydd ar fenthyg

Wilfried Zaha yn chwarae i Manchester United Image copyright Getty Images
Image caption Zaha yw'r chweched chwaraewr i symud i Gaerdydd ers i Solskjær gymryd lle Malky Mackay wrth y llyw

Mae asgellwr Manchester United, Wilfried Zaha, wedi ymuno â Chaerdydd tan ddiwedd y tymor.

Dyma chweched chwaraewr i symud i Gaerdydd ers i Ole Gunnar Solskjær gymryd lle Malky Mackay wrth y llyw.

Eisoes, mae Fabio, Kenwyne Jones, Magnus Wolff Eikrem, Mats Moller Daehli a Jo Inge Berget wedi ymuno hefo'r adar gleision.

Mae'n debyg mai Zaha, 21, yw'r chwaraewr enwoca' i ymuno yn y ffenestr drosglwyddo, ond mae'r cytundeb wedi cymryd amser hirach na'r disgwyl.

Meddai Solskjær: "Mae ei enw ar y gwaith papur. Chwaraewr Caerdydd ydy o nawr.

"Mae ganddo gyflymder, sgiliau technegol a'r gallu i fynd heibio pobl. Fe fydd o'n rhoi'r 'wmff' ychwanegol 'na i ni yn nhraean ola'r gem, pan fyddwn ni wir ei angen.

"Fe fydd o'n dod â'r darn bach coll 'na, i ddod o hyd i ofod a chreu mymryn o hud ar y cae."