Cymru yw un o'r gwledydd gorau, yn ôl y Rough Guide

Traeth Rhosili
Image caption Cafodd Cymru ei dewis am ei bod yn "gwasgu cymaint o brydferthwch i wlad fechan iawn."

Mae darllenwyr llyfrau teithio y Rough Guide yn dweud mai Cymru yw un o'r gwledydd gorau i ymweld â hi yn 2014.

Mi gafodd ei dewis am ei bod yn "gwasgu cymaint o brydferthwch i wlad fechan iawn."

Roedd y darllenwyr yn dweud y gall Cymru deimlo'n falch o'i mynyddoedd trawiadol, "ei dyffrynoedd gwyrddlas, ei harfordir greigiog a'i chestyll hynafol" a bod y rhain i gyd yn rhesymau dros roi Cymru ar ben eu rhestr.

Y gwledydd eraill ar y rhestr yw Chile, Malaysia, Slofenia a Phacistan.

Straeon perthnasol