Seiclo: Thomas yn wythfed

Geraint Thomas Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd Geraint Thomas yn 11eg wedi'r cymal cyntaf

Wythfed oedd y Cymro Geraint Thomas ar ddiwedd ras feicio'r Tour Down Under yn Adelaide, Awstralia.

Roedd Thomas ymhlith y prif grŵp i orffen y cymal olaf ar strydoedd dinas Adelaide fore Sul - fe gafodd yr un amser a'r enillydd Andre Griepel er mai 20fed oedd safle swyddogol Thomas.

Roedd hynny'n ddigon i'w godi un safle yn y ras gyfan - o nawfed i wythfed.

Simon Gerrans o Awstralia oedd yr enillydd - y trydydd tro iddo gyflawni'r gamp - eiliad o flaen ei gydwladwr Cadel Evans. Diego Ulissi oedd yn drydedd bum eiliad y tu ôl i Gerrans.

Straeon perthnasol