400 yn fwy o weision sifil yn cael eu cyflogi

Parc Cathays, Caerdydd Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption 5,777 o weision sifil sydd yn gweithio i Lywodraeth Cymru

Mae 400 o weision sifil ychwanegol wedi eu cyflogi gan Lywodraeth Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae'r ffigwr yn golygu bod cynnydd o 7% yn y staff rhwng mis Rhagfyr 2011 a Rhagfyr 2013.

5,386 oedd y nifer yn 2011. Ond erbyn y llynedd 5,777 oedd nifer y gweision sifil oedd yn gweithio i'r llywodraeth.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod na gynnydd wedi bod am fod ganddyn nhw fwy o bwerau deddfu erbyn hyn.

Gostwng 7% wnaeth nifer y staff mewn llywodraethau eraill ar draws Prydain yn ystod yr un cyfnod.

Rhwng Medi 2011 a Medi 2013 lleihau o 5,200 i 5,100 wnaeth nifer y gweision sifil oedd yn gweithio yn uniongyrchol i Lywodraeth yr Alban.

Prentisiaethau yn arwain at swyddi

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai un o'r rhesymau am hyn yw bod gan y llywodraeth fwy o gyfrifoldebau am wahanol feysydd.

"Rhwng Rhagfyr 2009 a Rhagfyr 2011, mi oedd 1,000 yn llai o staff yn gweithio i Lywodraeth Cymru. Ers 2011, mae nifer y staff wedi cynyddu ychydig wrth i ni fod yn gyfrifol am fwy o bynciau ac mae gyda ni rôl ddeddfwriaethol gryfach.

"Mae'r newidiadau yma wedi golygu cynydd bach yn y nifer o staff sydd yn gweithio o fewn meysydd arbennigol fel cynllunio a'r gwasanaethau cyfreithiol."

Mae'r datganiad yn dweud eu bod nhw wedi cychwyn rhaglen brentisiaethau a bod dros 150 o bobl wedi eu hyfforddi a nifer o'r rhain wedi dechrau gweithio gyda'r llywodraeth.

"Mae'n werth nodi er y cynnydd bychan yn nifer y gweithwyr, mae ein costau wrth eu cymharu tua 10% yn is nag yr oedden nhw yn 2011/12," mae'r llefarydd yn ychwanegu.

Synnu

Mae Llefarydd Cyllid y Blaid Geidwadol, Paul Davies yn dweud bod hi yn rhesymol i ddisgwyl y byddai mwy o weision sifil wedi eu cyflogi achos bod gan y llywodraeth bwerau deddfu llawn. Ond mae'n dweud bod cynnydd o 7% yn arwyddocaol.

"Mewn cyfnod o gyfyngu ar wariant mi ddylai bob corff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru dorri nôl er mwyn lleihau'r diffyg mawr yn y gyllideb gafodd ei adael ar ôl gan Lywodraeth Lafur Gordon Brown.

"Mae'n syndod bod Llywodraeth Cymru yn cwyno am dorriadau yn ei chyllideb pan mae nifer ei staff ei hun, ac yn ôl pob tebyg ei gostau rhedeg a'i fil cyflog staff, yn cynyddu fwy na dwbl graddfa chwyddiant."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.