Defnyddio technoleg i achub ieithoedd lleiafrifol?

Technoleg
Image caption Casgliad gwaith ymchwil oedd bod y gefnogaeth ddigidol ar gyfer 21 o'r 30 o ieithoedd Ewropeaidd naill ai "ddim yn bodoli " neu yn "wan iawn" ar y gorau.

Bydd grŵp sy'n cynnwys aelodau ledled Ewrop yn cwrdd yng Nghaerdydd i drafod sut y gall ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg ddefnyddio technoleg i hybu defnydd a statws yr iaith.

Daw'r cyfarfod yn dilyn nifer o adroddiadau diweddar.

Roedd rhybudd yn y dogfennau bod y rhan fwya' o ieithoedd Ewropeaidd yn wynebu "diflaniad digidol".

Mae ymchwil gan META-NET, oedd yn gyfrifol am gomisiynu'r adroddiadau, yn cefnogi'r pryderon.

Cefnogaeth 'wan iawn'

Casgliad yr ymchwil oedd bod y gefnogaeth ddigidol ar gyfer 21 o'r 30 o ieithoedd Ewropeaidd naill ai "ddim yn bodoli " neu yn "wan iawn" ar y gorau.

Ymysg y siaradwyr yn y cyfarfod, mae Dr Jeremy Evas o Brifysgol Caerdydd. Fo ydy awdur Yr Iaith Gymraeg yn yr Oes Ddigidol, sy'n edrych ar botensial defnyddio technoleg i hybu'r iaith.

Dywedodd Dr Evas "bod rhwystrau rhag defnyddio'r Gymraeg yn dal i fodoli", ond y gallai technoleg fod yn allweddol i'w dyfodol.

Ychwanegodd bod rhaid i bobl ddeall a bod yn ymwybodol o'r dechnoleg a manteisio arni, "a'r un mor bwysig yw ei bod ar gael, felly hefyd ansawdd y dechnoleg ei hun."

"Yn wir, mae yma gyfle, nid yn unig i gryfhau'r defnydd y Gymraeg, ond, hefyd, gall technoleg iaith gynyddu ei statws yn sylweddol."

Rôl bwysig

Mae S4C yn cefnogi'r cyfarfod, a Garffild Lloyd Lewis, cyfarwyddwr cyfathrebu, marchnata a phartneriaethau'r sianel yn dweud fod ganddyn nhw "rôl bwysig i'w chwarae wrth ddarparu cyfryngau digidol."

Yn ôl Mr Lewis mae cydweithio gyda phartneriaid o bob rhan o Ewrop yn eu galluogi "i sicrhau bod ein cynulleidfaoedd yn elwa o gynnwys digidol o'r radd flaenaf yn y Gymraeg."

Y Rhwydwaith Ewropeaidd i Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol (NPLD) sy'n gyfrifol am drefnu'r cyfarfod yr wythnos hon. Meirion Prys Jones ydy prif weithredwr y rhwydwaith.

Mae o'n gobeithio y bydd cynllunio da a chefnogaeth yn golygu y "gall technoleg wneud ieithoedd lleiafrifol yn hygyrch i unrhyw un yn Ewrop... mae'n gyfle sydd yn ddrws agored i ni".

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:

"Er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn yr unfed ganrif ar hugain, rhaid i dechnoleg a chyfryngau digidol Cymraeg fod o ansawdd uchel ac ar gael yn rhwydd."

'Cyfrwng perthnasol'

Ychwanegodd na ddylai'r iaith gael ei "gadael ar ôl gan y technolegau diweddaraf, ac yn hytrach mae'n rhaid defnyddio adnoddau digidol fel ffordd o ddangos fod yr iaith yn gyfrwng perthnasol, modern, a chreadigol."

"Bwriad ein Cynllun Gweithredu Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg yw annog creu a defnyddio technoleg Gymraeg."

Ymysg y feddalwedd fydd yn cael ei drafod yn y cyfarfod, fydd gwirwyr sillafu a gramadeg, darpariaeth ar ffonau clyfar, fel Siri ar yr iPhone, a systemau cyfieithu.

Mae'r maes technoleg iaith yn cynhyrchu meddalwedd i brosesu unrhyw iaith ar lafar neu'n ysgrifenedig.

Bydd siaradwyr o Gymru, Iwerddon, Gwlad y Basg a'r Iseldiroedd yn cymryd rhan yn y cynhadledd ar Ionawr 23 a 24.

Straeon perthnasol