Wardiau ar gau yn Abertawe a Phen-y-bont oherwydd haint

Mae wardiau yn ysbytai yn Abertawe a Phen-y-bont ar gau oherwydd salwch.
Cafodd wardiau C a D yn Ysbyty Treforys a ward 10 yn Ysbyty Tywysoges Cymru eu cau i ymwelwyr.
Yr wythnos diwethaf cafodd mwy o wardiau yn y de ddwyrain eu cau oherwydd salwch norofirws.
Roedd adran yn Ysbyty Llandochau ym Mro Morgannwg a dwy yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd ar gau oherwydd yr haint.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg bod y wardiau ar gau heblaw am mewn amodau arbennig, yn cynnwys rhieni yn ymweld â phlant neu deulu yn ymweld â chlaf sy'n agos at ddiwedd eu bywyd.
'Gallu bod yn beryglus'
Dywedodd Pennaeth Nyrsio a Rheoli Heintiau yn y bwrdd, Delyth Davies, bod salwch o'r fath yn gallu bod yn beryglus iawn i'r henoed, yr ifanc a phobl gyda chyflyrau iechyd fel diabetes.
"Mae heintiau yn lledaenu yn hawdd iawn. Mae'n hynod o bwysig ein bod ni i gyd yn gwneud pob peth gallwn i atal y lledaeniad," meddai.
"Cofiwch; golchwch eich dwylo yn aml gyda sebon a dŵr cynnes, yn enwedig ar ôl bod yn y toiled, a cyn ac ar ôl paratoi bwyd."
Ychwanegodd ei fod yn bwysig i gofio y gall heintiau gael eu trosglwyddo hyd at 48 awr ar ôl i'r salwch basio, a'i fod yn bwysig cadw draw yn ystod y cyfnod yma.
"Mae angen i ni amddiffyn y cleifion bregus mewn ysbytai a chartrefi gofal.
"Mae'r rheol 48 yn bwysig iawn. Bydd eich perthynas neu ffrind yn eich methu am ddeuddydd, ond ni fydd cleifion eraill yn diolch i chi am basio'r haint ymlaen."
Am fwy o fanylion am ba wardiau sydd ar gau cliciwch yma.