Warburton yn obeithiol i'r Chwe Gwlad

Sam Warburton Image copyright Getty Images
Image caption Mae Sam Warburton yn obeithiol o fedru chwarae yn erbyn yr Eidal

Mae capten Cymru, Sam Warburton yn disgwyl bod yn holliach i chwarae yn y gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal ar Chwefror 1.

Mae'r blaenasgellwr wedi bod yn dioddef o anaf i'w ysgwydd ers mis Tachwedd, ond dywedodd ddydd Mercher ei fod yn gwella.

"Dwi'n meddwl y byddai yn barod i chwarae," meddai.

"Dwi angen cael sgwrs hefo Warren Gatland a'r meddygon yr wythnos nesaf i benderfynu beth yw'r peth gorau i'w wneud, ac os mai mynd yn ôl at fy nghlwb gyntaf i chwarae gêm yw hynny."

Byddai cael Warburton yn y garfan yn hwb i Gymru, fydd heb flaenwr profiadol y Gweilch Ryan Jones, sy'n dioddef o anaf.

Mae'n debyg y bydd y canolwr Jonathan Davies hefyd yn methu rhan o'r gystadleuaeth oherwydd anaf i'w ysgwydd, ac mae pryderon am ffitrwydd y prop Gethin Jenkins.

Bydd chwaraewyr Warren Gatland yn gobeithio ennill y gystadleuaeth am y drydedd flwyddyn yn olynol eleni, rhywbeth sydd erioed wedi ei gyflawni o'r blaen.

Mae hynny yn atyniad ychwanegol i Warburton.

"Ry'n ni bob tro yn edrych ymlaen at y Chwe Gwlad, dyna yw'r prawf mwyaf i chwaraewyr," meddai.

"Dyma'r pumed bencampwriaeth i fi gystadlu ynddi a dwi'n hoff iawn o chwarae ynddyn nhw.

"Mae ganddon ni gyfle i ennill tair yn olynol a chreu hanes."

Yr Eidal fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yn Stadiwm y Mileniwm ddechrau Chwefror, cyn teithio i Iwerddon yr wythnos wedyn.

Ffrainc fydd y gwrthwynebwyr nesaf ar nos Wener, Chwefror 21, cyn Lloegr a'r Alban ym mis Mawrth.

Straeon perthnasol