Apêl heddlu am ferch ar goll

Adriena Gaborova Image copyright Heddlu Gwent
Image caption Does neb wedi gweld Adriena Gaborova ers Ionawr 11

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth er mwyn ceisio dod o hyd i ferch 15 oed sydd ar goll o'i chartref yng Nghasnewydd.

Nid yw Adriena Gaborova wedi cael ei gweld ers Ionawr 11.

Cafodd ei disgrifio fel tua 5'5"-5'6" o daldra gyda gwallt brown at ei hysgwyddau ac o gorff cymedrol.

Roedd yn gwisgo trowsus 'leggins' gwyn, siwmper ac esgidiau glas pan gafodd ei gweld diwethaf.

Mae swyddogion Heddlu Gwent yn credu y gallai Adriena fod yn ardal Bolton, lle mae ganddi gysylltiadau.

Dylai unrhyw un sydd wedi gweld Adriena, neu sydd â gwybodaeth amserol amdani neu le y mae hi, ffonio'r heddlu ar 101 gan nodi'r cyfeirnod 128 12/01/14.