Darganfod corff yn Llanelli

Cyhoeddwyd

Mae corff dyn 39 mlwydd oed wedi cael ei ddarganfod yn Llanelli.

Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un sydd heb esboniad ar hyn o bryd.

Cafodd swyddogion eu galw i gyfeiriad ar Stryd Andrew toc wedi 3:00pm.

Cafodd y gwasanaeth ambiwlans hefyd eu galw yno ond daeth cadarnhad fod y dyn wedi marw.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol