Ymchwil llifogydd ym Mhrifysgol Aber

Ton anferth Image copyright Prifysgol Aberystwyth
Image caption Mae'r difrod i Aberystwyth wedi annog trafodaeth ynglŷn â beth ellir ei wneud pan mae dŵr yn achosi difrod

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn arian i ymchwilio i ffyrdd o ddelio'n well gydag achosion o lifogydd.

Cafodd tref Aberystwyth ei heffeithio gan donau mawr yn ddiweddar oherwydd y cyfuniad o lanw uchel a gwyntoedd cryf ac fe wnaeth hyn achosi difrod sylweddol i'r prom.

Yn ogystal, cafodd ardal Tal-y-bont ei heffeithio'n ddrwg nôl yn 2012 a bydd y pentref yn un o'r enghreifftiau fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr ymchwil.

Mae un o bob chwe eiddo (sef 600,000 o bobl mewn 375,000 o adeiladau) yng Nghymru mewn perygl llifogydd, yn ôl y brifysgol, ac mae hyn yn cyfateb i risg economaidd o rhyw £200 miliwn y flwyddyn.

Dywedodd y brifysgol fod y £1.5 miliwn fyddan nhw'n ei dderbyn i wneud y gwaith yn dod ar amser addas, gan fod effaith y dŵr ar Aberystwyth dal yn fyw yn y côf.

Dysgu sut i ymateb a pharatoi

"Prif nôd y gwaith hwn yw rhannu arbenigedd a chydweithio yn y maes er mwyn deall yn well y materion yn ymwneud â dŵr, a'u cyfleu yn well i gymunedau fel bod pobl yn fwy gwybodus o'r materion dŵr sy'n effeithio eu hardal," meddai Sara Penrhyn Jones.

Ms Jones, sy'n darlithio yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu'r brifysgol, fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r gwaith.

Nid ymchwil wyddonol yw hwn, yn hytrach bydd yn ystyried sut y gellir gwella cyfathrebu o fewn y maes dan sylw.

Y gobaith yw y bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth o'r materion fel bod penderfyniadau polisi gwell yn cael eu gwneud, ar lefel lleol a chenedlaethol.

'Arbennig o amserol'

Er mwyn ceisio deall sut fyddai'r ffordd orau o gyflawni hyn, bydd Ms Jones a'i thîm o ysgolheigion, artistiaid a phobl o'r gymuned yn edrych ar bedwar achos penodol o lefydd sy'n cael eu heffeithio gan faterion dŵr.

Y cymunedau sydd wedi eu dewis yw Tal-y-bont a'r Borth, Bryste, Cwm Lee yn Llundain a Shipley yn Bradford.

"Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi rhyw £40 miliwn yn uniongyrchol mewn rheoli risgiau llifogydd ac erydu arfordirol bob blwyddyn, ac mae wedi nodi pwysigrwydd cyfathrebu â'r cyhoedd fel blaenoriaeth allweddol," meddai Ms Jones.

"Mae'r tywydd eithafol diweddar yng ngwledydd Prydain, ac yn fy nhref fy hun sef Aberystwyth, wedi ein hatgoffa o beryglon lefelau'r môr yn codi a llifogydd, ac felly mae'r prosiect hwn yn teimlo yn arbennig o amserol.

"Drwy siarad â phobl leol, mae'r awydd am wybodaeth a thrafodaeth bellach ynghylch yr heriau hyn yn amlwg."

Straeon perthnasol