Carcharu dyn am ddwyn offer milwrol

Gwersyll Dering Lines, Aberhonddu Image copyright Jaggery
Image caption Cafodd yr offer ei ddwyn o wersyll Dering Lines yn Aberhonddu

Cafodd milwr ei garcharu am 20 mis ddwyn offer o wersyll yn Aberhonddu.

Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful fod yr Uwch Ringyll Steven Barratt, sy'n 29 oed ac o Lerpwl, wedi dwyn offer sy'n helpu milwyr weld yn y tywyllwch gwerth tua £115,000.

Fe geisiodd Barratt werthu'r offer ar wefan eBay.

Fe gafodd un o'r offerynnau ei gynnig am £2,300 ar eBay.

Dywedodd yr erlynydd Nick Gedge: "Dyma'r math o offer y byddai'n creu pryder be bai yn nwylo'r bobl anghywir."

Cafodd yr offer ei dwyn o Ysgol Filwrol Dering Lines yn Aberhonddu.

Dywedodd Alexander Greenwood, ar ran yr amddiffyniad, y byddai Barratt yn difaru'r hyn a wnaeth am weddill ei fywyd.