Hawliau maenorol: 'Angen gweithredu i leddfu pryder'

Albert Owen Image copyright Albert Owen
Image caption AS Ynys Môn, Albert Owen, oedd wedi trefnu'r drafodaeth seneddol ar hawliau maenorol

Wedi trafodaeth ynglŷn â hawliau maenorol yn San Steffan ddydd Mercher, roedd cytundeb ar draws y pleidiau bod yn rhaid "taclo'r broblem".

Aelod Seneddol Ynys Môn, Albert Owen, oedd wedi trefnu'r drafodaeth ar ôl i nifer o'i etholwyr dderbyn llythyrau'n sôn am yr hawliau.

Daw hyn wedi i'r Arglwydd Treffos gofrestru ei hawliau maenorol dros 10,500 acer ar Ynys Môn gyda'r Gofrestrfa Tir.

Mae'r teitl yn rhoi hawliau dros bysgota, hela a chloddio am fwynau.

Mae nifer o drigolion Ynys Môn yn poeni am y sefyllfa.

Yn Mis Hydref 2013, derbyniodd 4,000 o bobl yr ynys - o Landdona i Lanfairpwll - lythyrau yn dweud bod yr Arglwydd Treffos, yr awdur Stephen Paul Hayes, wedi cofrestru ei hawliau.

Pryder

Roedd Mr Owen eisiau i'r llywodraeth ymateb er mwyn ceisio lleddfu pryder y bobl leol a rhoi "mwy o hawliau" i berchnogion tir cyffredin.

Meddai: "Mae nifer o bobl wedi talu am archwiliadau tir, ac yn credu bod ganddyn nhw hawliau rhydd-ddaliadol dros y tir, heb wybod am yr hawliau yma.

"Felly dwi'n meddwl ei bod yn iawn yn yr 21ain ganrif fod y bobl yma'n cael eu diogelu."

Ychwanegodd Glyn Davies, AS Ceidwadol Sir Drefaldwyn, bod y mater yn "bryder anferthol" i nifer o'i etholwyr yntau.

Esboniodd fod nifer o bobl wedi gofyn am gyngor cyfreithiol ynglŷn â'r sefyllfa, heb ddeall ystyr yr hawliau.

'Dim cyfiawnhad'

Dywedodd Hywel Williams, AS Plaid Cymru dros Arfon, bod yr hawliau maenorol yn enghraifft o "annhegwch ac anacroniaeth glir" a bod "rhaid ei daclo."

Ychwanegodd nad oedd yn credu eu bod yn hawliau y gellid eu "cyfiawnhau".

Dywedodd Gweinidog Busnes Llywodraeth y DU, Michael Fallon AS, bod y Gofrestrfa Tir wedi derbyn 73,000 o geisiadau gan bobl yn dweud bod ganddyn nhw hawliau maenorol.

Ar Ynys Môn, mae'r Aelod Cynulliad lleol Rhun ap Iorwerth wedi bod yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus gyda thrigolion sydd wedi derbyn llythyrau.

Meddai: "'Dwi am bwyso am newid yn y gyfraith ar hyn.

"Mae 'na nifer fawr o bobl 'dwi wedi'u cyfarfod sydd erbyn hyn wedi derbyn cyngor cyfreithiol, sy'n costio £50 i £100.

"Yn ogystal mae 'na bobl yn methu cael morgais oherwydd hyn."

Ychwanegodd Mr ap Iorwerth ei fod am ysgrifennu at y llywodraeth yn gofyn am ddileu'r hawliau neu sicrhau nad oedd unrhyw werth iddynt.

Gwerthu teitl

Mae Mr Hayes wedi cynnig gwerthu ei deitl am £40,000 i bobl Ynys Môn a'r llywodraeth.

Dywedodd mai'r unig reswm yr oedd wedi cofrestru'r hawliau oedd bod yna ddeddf yn ei orfodi i wneud, a bod yn rhaid iddo ddiogelu ei "fuddsoddiad."

Roedd yn rhaid i unrhyw un oedd eisiau cofrestru'r hawliau wneud hynny erbyn mis Hydref y llynedd.

Yn ôl y Gofrestrfa Tir, mae gan bobl hawl i apelio yn erbyn yr hawliau trwy gwblhau ffurflen.

Mae 2,500 o drigolion Ynys Môn wedi herio'r hawliau ac maen nhw'n disgwyl i weld a yw Mr Hayes am ymateb ymhellach.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.