Jamie Roberts 'nôl i'r Chwe Gwlad?

Jamie Roberts Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r canolwr wedi gorfod cael llawdriniaeth ar ei ffêr

Mae Jamie Roberts wedi rhoi hwb i dîm rygbi Cymru, wrth i'w glwb ddweud y gall fod yn barod i chwarae cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2014.

Dywedodd Racing Metro y gall y canolwr fod yn holliach i chwarae ar Ionawr 19, pan mae Racing yn teithio i Clermont Auvergne.

Os fyddai'n chwarae, byddai'n golygu y gall fod yn holliach erbyn dechrau'r bencampwriaeth ar Chwefror 1.

Symudodd Roberts o'r Gleision i Ffrainc yn yr haf, ond roedd rhaid iddo gael llawdriniaeth ar ei ffêr wedi iddo chwarae ond tair gêm i'w glwb newydd.

Methodd pob un o gemau prawf Cymru yn ystod yr Hydref, wrth iddo fethu a chwarae am 12 wythnos.

Mae'r Cymro, sy'n 27 oed, wedi dychwelyd o'r anaf i'w ffêr yn ddiweddar, ond cafodd anaf arall i'w ben-glin yn ystod buddugoliaeth Racing dros Toulon.

Ond mae Racing yn dweud y gall fod yn barod i chwarae eto cyn diwedd mis Ionawr.

Byddai'n hwb mawr i garfan Cymru, wrth iddyn nhw geisio ennill y bencampwriaeth am y trydydd tro yn olynol.

Straeon perthnasol