Llanbedr
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Galw am gryfhau amddiffynfeydd môr

7 Ionawr 2014 Diweddarwyd 21:12 GMT

Mae undeb ffermwyr yr NFU wedi galw am ail-adeiladu yr amddiffynfeydd môr ger Harlech cyn gynted â phosib er mwyn atal llifogydd dyddiol ar gannoedd o erwau o dir amaethyddol.

Fe dorrodd yr amddiffynfeydd ger Llanbedr yn sgil storm ddydd Gwener, ac mae dros gant o ddefaid wedi boddi.

Gallai rhai o'r lluniau yn adroddiad Sion Tecwyn beri loes.