Dwayne Peel yn symud o Sale i Fryste

Dwayne Peel Image copyright Getty Images
Image caption Mae Peel wedi chwarae 82 o weithiau i Sale ers ymuno â nhw yn 2008

Bydd cyn fewnwr Cymru a'r Llewod, Dwayne Peel, yn ymuno â Bryste y tymor nesa' ar ôl arwyddo cytundeb dwy flynedd.

Bydd y chwaraewr 32 oed yn gadael ei glwb presennol, Sale ym mis Mehefin.

Mae ganddo 76 o gapiau rhyngwladol a bu'n rhan o'r carfannau a gipiodd ddwy Gamp Lawn yn 2005 a 2008. Bu hefyd ar daith y Llewod i Seland Newydd yn 2005.

Dywedodd cyfarwyddwr rygbi Bryste, Andy Robinson: "Mae penderfyniad Dwayne i ymuno â ni yn arwydd clir o'r ffordd rydyn ni eisiau mynd â phethau.

"Mae ganddo brofiad helaeth, wedi bod ar frig y gêm broffesiynol ers dros 10 mlynedd - mae hynny'n dyst i agwedd a ffordd Dwayne o weithio."

Mae wedi chwarae 82 o weithiau i Sale ers ymuno â nhw yn 2008.

Dywedodd ei fod yn hapus i ymuno â Bryste wrth iddynt geisio ailsefydlu eu hunain fel tîm Uwchgynghrair.

"Mae yna awydd mawr i gyflawni pethau," meddai.

"Mae Bryste yn glwb gydag uchelgais a gweledigaeth glir o ble maen nhw eisiau mynd - roedd hynny'n apelio ata' i."