Apêl wedi damwain farwol yng Nghorris

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i lanc 19 oed farw yn dilyn damwain ffordd yn ne Gwynedd ddydd Llun.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A487 yng Nghorris tua 5:35yh.

Roedd dau gar, Ford Fiesta lliw arian, a Ford Focus du, wedi taro yn erbyn ei gilydd.

O ganlyniad i'r gwrthdrawiad, bu farw gyrrwr y Fiesta yn y fan a'r lle.

Cadarnhaodd yr heddlu mai Louis Barker, 19, o Fachynlleth, a fu farw.

Mae ei deulu wedi cael gwybod am y farwolaeth.

Cafodd gyrrwr y Focus, dynes leol 53 oed, anafiadau difrifol ond dyw hi ddim yn ymddangos bod ei bywyd mewn perygl.

Dywedodd y Cwnstabl Arwyn Phillips, o'r Uned Plismona Ffyrdd: "Mae ymchwiliad llawn nawr yn cael ei gynnal ac rwy'n gofyn i unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd ac a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad i gysylltu gyda'r heddlu ar 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod RC14002894."

Gall y cyhoedd hefyd gysylltu gyda Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.