Stôf wedi ffrwydro mewn tŷ yng Nghasnewydd

Cafodd un person ei gludo i'r ysbyty wedi i stôf llosgi pren ffrwydro mewn tŷ yng Nghasnewydd nos Lun.

Roedd swyddogion tân wedi cael eu galw o ardaloedd Malpas a Maendy i'r digwyddiad ar Ffordd Malpas, Brynglas, am 7:08yh.

Roedd y stôf wedi ffrwydro mewn fflat ar lawr gwaelod adeilad deulawr.

Doedd yna ddim tân pellach wedi'r ffrwydrad, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Cafodd yr unigolyn ei drin yn y fan a'r lle gan barafeddygon cyn mynd i Ysbyty Brenhinol Gwent.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.