Eisteddfod: Rheol Gymraeg i atal cystadleuwyr celf?

Josephine Sowden
Image caption Yn ffilm Josephine Sowden mae hi ar y traeth yn mwmian yn Saesneg

Mae enillydd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd wedi dweud y gall penderfyniad y Brifwyl i bwysleisio'r rheol Gymraeg mewn cystadlaethau celfyddydol ei rhwystro rhag cystadlu eto.

Roedd gwaith fideo Josephine Sowden, Lili'r Maes, wedi cipio'r wobr gwerth £5,000 yn y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013. Ond roedd rhai ymwelwyr i'r arddangosfa wedi beirniadu ei defnydd o'r Saesneg, ac yn ôl mudiad Dyfodol i'r Iaith roedd y wobr yn gosod "cynsail peryglus".

Mae'r ffurflen gais ar gyfer y Brifwyl eleni yn cynnwys darn newydd o destun sy'n datgan "fod rhaid i unrhyw eiriau gwreiddiol a gynhwysir yn y gwaith celf (yn cynnwys sain a fideo) fod yn Gymraeg".

Ond mae'r testun newydd hefyd yn dweud gall ceisiadau "gynnwys geiriau mewn ieithoedd eraill os ydynt yn rhan o wrthrych a ddarlunnir neu a ymgorfforir, neu yn ddyfyniadau, cyn belled nad ydynt yn rhan sylweddol o'r cyfanwaith".

Techneg newydd

Dywedodd Robyn Tomos, Swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod, ei fod yn gobeithio na fyddai Josephine Sowden nac artistiaid eraill yn teimlo eu bod yn cael eu rhwystro rhag cystadlu yn y dyfodol.

"Os oes yna unrhyw gwestiynau byddwn i'n gofyn i'r artistiaid i gysylltu. Dewch i ni drafod y posibiliadau," meddai.

Ychwanegodd Mr Tomos fod y defnydd o eiriau ar lafar neu wedi'u hargraffu yn dechneg weddol ddiweddar i artistiaid sy'n ceisio am y Lle Celf.

"Pan sefydlwyd y rheol Gymraeg ym 1950, pan roedd yr Eisteddfod yng Nghaerffili, roedd peintiadau mewn fframiau a cherfluniau ar blinthiau. Felly doedd hwn ddim wedi dod i'r amlwg pryd hynny," ychwanegodd.

Dywedodd Josephine Sowden, y byddai'n "dal yn ôl" rhag cystadlu gan fod effaith y rheol Gymraeg ar y Lle Celf nawr wedi'i bwysleisio.

"Dw i'n deall pam bod hi (y rheol Gymraeg) wedi ei gwneud yn fwy clir oherwydd mae wedi cyffroi rhai a dw i'n gwybod ei bod hi yn wŷl Gymraeg.

"Mae'n bechod o ran y gystadleuaeth achos mae hi yn gystadleuaeth o fri. Mae e yn gymaint o anrhydedd i ennill.

"Mi fydd hi yn bechod os bydd hyn yn atal pobl rhag cystadlu jest am eu bod nhw yn poeni efallai na fydd eu gwaith nhw'n cael eu derbyn os oes 'na unrhyw beth heblaw Cymraeg ynddo."

Mae Miss Sowden hefyd wedi amddiffyn ei defnydd o'r Saesneg yn y fideo buddugol.

"Er mod i yn gwybod fy mod yn siarad Saesneg, y syniadau, y ffordd dw i'n siarad yn ddi-dor sydd yn fwy pwysig," meddai.

"Tynnu sylw"

Mae Iwan Bala yn gyn-enillydd y fedal aur, ac fe enillodd Wobr Ifor Davies yn Eisteddfod Genedlaethol 2013 am ei waith oedd yn cynnwys geiriau Saesneg, Sbaeneg a Chymraeg.

"Roedd fy ngwaith i yn ddadleuol hefyd. Roedd yn gyfieithiad gan fy ffrind o gerdd Sbaeneg i mewn i'r Saesneg, ac roeddwn i'n hoffi hi'n fawr a gyda chymorth y prifardd Twm Morys nes i gyfieithu hi i'r Gymraeg.

"Roeddwn i'n meddwl mai lleoli'r iaith Gymraeg ar yr un lefel â Saesneg a Sbaeneg fel iaith ryngwladol oedd bwriad y gwaith."

Mae Mr Bala yn dal i ystyried a yw e am gystadlu yn y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin eleni, ond dywedodd bod gweithiau dadleuol yr arddangosfa ddim o reidrwydd yn niweidiol i'r digwyddiad.

"Yn gyffredinol mae yna wastad rhai gweithiau sydd yn fwy dadleuol nag eraill, a dydw i ddim yn meddwl fod hynny'n peth ddrwg. Mae'n tynnu sylw i'r Eisteddfod ac i'r arddangosfa."