Wylfa Newydd: Ymlaen i'r cam nesaf yn asesiad adweithydd

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Atomfa Wylfa ar Ynys Môn

Mae'r Swyddfa Reoleiddio Ynni Niwclear a'r Asiantaeth Amgylchedd wedi dweud eu bod yn barod i ddechrau'r ail gam yn asesiad adweithydd atomfa niwclear Wylfa Newydd ar Ynys Môn.

Ers naw mis mae'r rheoleiddwyr wedi bod yn cydweithio â'r cwmni o Japan, Hitachi GE sy'n bwriadu defnyddio adweithyddion arbennig ar eu safle ar Wylfa yn ogystal ag Oldbury yn Sir Gaerloyw,

Y cam nesa' fydd asesu'r dyluniad o ran arbenigedd dechnegol ond gallai'r rhan hon o'r broses gymryd hyd at bedair blynedd.

Roedd rhan gyntaf y broses yn ystyried iechyd a diogelwch.

'Cam positif'

Dywedodd AS Ynys Môn, Albert Owen: "Mae hyn yn gam arall positif yn rhan fwyaf anodd yr holl broses.

"Mae'r dechnoleg yn cael ei defnyddio ac wedi ei phrofi a dwi'n falch iawn bod y cwmnïau a'r rheoleiddwyr wedi mynd i gymaint o fanylion ..."

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones: "Mae prosiect Wylfa Newydd yn bwysig i mi yn bersonol ac mae ymrwymiad y llywodraeth i ddefnyddio ynni niwclear yn y dyfodol yn gadarn.

"Ond mae'n hollbwysig fod unrhyw gynllun i adeiladu adweithydd niwclear yn golygu'r asesiadau mwyaf llym gan reoleiddwyr annibynnol ..."

Dywedodd Ken Sato, Rheolwr Cyffredinol Trwyddedu, Hitachi Ewrop: "Ers i ni lofnodi cytundebau asesu gyda'r rheoleiddwyr fis Ebrill, rydym wedi gwneud cynnydd rhagorol.

"Rydym wrth ein bodd ein bod yn symud ymlaen i gam nesaf yr asesiad."

'Cynlluniau'

Yn Nhachwedd 2012 prynodd Hitachi, Cwmni Niwcliar Horizon y cwmni fydd yn datblygu'r atomfa ar dir ger yr atomfa bresennol am £700m.

Ychwanegodd Alan Raymant, Prif Swyddog Gweithredu Horizon: "Mae'r asesiad yn hanfodol i lwyddiant ein prosiectau.

"Yn ddiweddarach eleni byddwn yn cyflwyno ein cynlluniau ni ar gyfer Wylfa Newydd o ran ymgynghori cyhoeddus."

Dywedodd Hitachi eu bod yn gobeithio creu rhwng 5,000 a 6,000 o swyddi adeiladu a 1,000 o swyddi pellach wrth i'r gwaith cynhyrchu gychwyn.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol