Gorfodi awyren i lanio

Cafodd awyren oedd yn hedfan o Geneva i Gaerdydd ei gorfodi i lanio ym Mharis oherwydd "nam technegol bach".
Wedi i'r awyren lanio ym maes awyr Orly, Paris cafodd ei chwistrellu gyda dŵr.
Ni chafodd neb ei frifo a bydd y teithwyr yn cael eu hedfan i Gaerdydd yn hwyrach.
Fe gafon nhw wybod mai "problem hydrolig" oedd yn gyfrifol am y glaniad annisgwyl.