Wrecsam 2 - 1 Aldershot

Wrecsam
Image caption Jay Harris oedd arwr y dydd i Wrecsam

Mae Wrecsam wedi cael eu buddugoliaeth gyntaf yn 2014 diolch i gôl anhygoel yn y munudau olaf gan Jay Harris yn erbyn Aldershot ar Gae'r Ras.

Roedd Joe Clarke wedi rhoi'r cochion ar y blaen wedi chwarter awr wrth benio cic gornel i gefn y rhwyd.

Ond llwyddodd Aldershot i'w gwneud hi yn gyfartal funudau'n ddiweddarach wrth i Brett Williams dwyllo amddiffyn Wrecsam, oedd yn credu ei fod yn camsefyll.

Roedd hi'n edrych i'r byd fel gem gyfartal cyn i Harris daro ergyd a hanner i gornel ucha'r rhwyd o 30 llath.

Mae'r fuddugoliaeth yn gweld Wrecsam yn codi i'r 13eg safle.

Straeon perthnasol