Darganfod corff fore Calan

Cyhoeddwyd

Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod ar lan y môr ym Mhrestatyn ar fore Diwrnod Calan.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw am 1am ac fe wnaethon ddarganfod corff dyn 64-mlwydd-oed.

Maen nhw'n dweud bod y dyn yn byw yn lleol.

Mae ei deulu wedi cael gwybod ac mae'r manylion wedi cael eu rhoi i'r crwner - mae'r heddlu'n trin y farwolaeth fel un "heb ei esbonio" ar hyn o bryd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol