Rhanbarthau: Dim cytundeb
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff sy'n cynrychioli rhanbarthau rygbi Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi methu â chytuno i ymestyn cytundeb gydag Undeb Rygbi Cymru.
Roedd yr undeb wedi gosod Rhagfyr 31 fel dyddiad olaf i gyrraedd cytundeb fyddai'n caniatáu i'r rhanbarthau gymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau.
Dywedodd y corff bod hyn yn ategu ymrwymiad y rhanbarthau i Gwpan Pencampwyr Rygbi Ewrop o dan drefn y Chwe Gwlad, gan ddweud y bydd hynny'n cynhyrchu £12 miliwn o incwm ychwanegol dros y tair blynedd nesaf i'r pedwar rhanbarth.
Mae'r cytundeb hefyd yn cynnwys arian o hawliau darlledu gemau rygbi ac mae'r un presennol yn dod i ben ar ddiwedd y tymor hwn, sef Mehefin 2014.
Dim ymrwymiad
Mewn datganiad gyhoeddwyd gan Regional Rugby Wales (RRW) brynhawn Mawrth fe ddywedodd y corff:
"Er bod y rhanbarthau Cymreig - yn chwaraewyr a hyfforddwyr, noddwyr, buddsoddwyr, cefnogwyr a chymunedau - yn ymfalchïo yn eu cyfraniad i rygbi yng Nghymru ar bob lefel ac wedi ymrwymo i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru i sicrhau dyfodol cynaliadwy a chystadleuol i rygbi proffesiynol yng Nghymru, nid yw'r undeb ar hyn o bryd yn medru cadarnhau:-
- Bodolaeth a strwythur unrhyw gystadleuaeth Ewropeaidd am y cyfnod 2014-15 tan 2018-19;
- Incwm a dosraniad arian a ddaw o unrhyw gystadleuaeth o'r fath dros y cyfnod;
- Nifer y timau fydd yn cystadlu yng nghynghrair y Pro12 dros yr un cyfnod;
- Incwm a dosraniad arian a ddaw o'r Pro12 dros y cyfnod, na hyd yn oed pwy fydd y prif noddwr.
"Oherwydd hyn nid yw'n bosib cadarnhau diffiniad penodol o 'gymryd rhan'. Felly ni allwn gadarnhau cytundeb cyfreithiol.
"Mae URC felly'n mynnu bod y rhanbarthau'n ymrwymo'n gyfreithiol i dalu eu costau rhedeg nhw ond heb ymrwymo i'r incwm o'r cystadlaethau sy'n ofynnol o dan y cytundeb."
Beirniadaeth
Mae'r datganiad yn beirniadu URC yn hallt am fethu â chadarnhau datrysiad sawl mater er eu bod wedi cael bron dwy flynedd i wneud hynny.
Maen nhw'n dweud hefyd nad ydyn nhw'n credu bod y cytundeb a gynigiwyd yn adlewyrchu newidiadau a gofynion y gêm fodern.
Dywedodd RRW ymhellach: "Mae'n glir y bydd cynnydd enfawr yn yr arian darlledu a ddaw yn Ewrop yn cynyddu'r bwlch ariannu rhwng rhanbarthau Cymru a chlybiau yn Ffrainc a Lloegr dros y pum mlynedd nesaf.
"Hefyd mae'r cyllid sy'n cael ei ddarparu i dimau'r Alban ac Iwerddon gan eu hundebau yn parhau i fod yn sylweddol uwch nag yng Nghymru."
Ar ddiwedd y datganiad dywedodd bod rhaid datrys y sefyllfa erbyn diwedd Ionawr 2014, ac os na fydd hyn yn bosibl yna ni fydd gan y rhanbarthau ddewis ond ystyried cystadlaethau eraill yn syth.
"Heb newid," medd y datganiad, "bydd rygbi proffesiynol yng Nghymru yn disgyn ymhellach y tu ôl i weddill y gêm ar draws Ewrop."
Ymateb yr Undeb
Wrth ymateb i'r datganiad, fe gyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru ddatganiad eu hunain sy'n dweud:
"Mae URC yn hyderus y bydd timau proffesiynol o Gymru yn parhau i gystadlu mewn cystadlaethau swyddogol er lles rygbi Cymru gyfan.
"Mae'r Undeb hefyd yn hyderus y bydd cystadleuaeth rygbi Ewropeaidd o dan reolaeth European Rugby Cup (ERC) yn digwydd y tymor nesaf. Bydd timau o Gymru hefyd yn chwarae yng nghynghrair y Pro12 a drefnir gan Celtic Rugby Ltd.
"Hefyd mae URC yn ategu ei ymrwymiad i reolau'r IRB sy'n dweud y dylai cystadlaethau traws-ffiniol ond ddigwydd gyda chymeradwyaeth lawn yr undebau rygbi perthnasol.
"Mae URC wedi cael gwybod nad yw'r pedwar sefydliad rygbi rhanbarthol Cymreig am barhau gyda'r cytundeb presennol a gytunwyd yn 2009. Bydd y cytundeb felly'n dod i ben ar Fehefin 30, 2014.
"Gobaith URC oedd y byddai'r pedwar rhanbarth wedi parhau gyda'r cytundeb gan gadw'u hawl i fod y timau sy'n cael eu henwebu gan URC ar gyfer y cystadlaethau swyddogol."
Mae geiriad datganiad URC yn amwys, ond yn awgrymu y gallai'r undeb enwebu timau gwahanol i'r pedwar rhanbarth i gynrychioli Cymru yn y Pro12 a Chwpanau Heineken ac Amlin y tymor nesaf.
Fe fydd cyfarfod o fwrdd URC yn cael ei gynnal ddydd Iau, ac mae disgwyl y bydd y dyfodol ychydig yn gliriach wedi'r cyfarfod hwnnw.
Straeon perthnasol
- 29 Rhagfyr 2013
- 19 Rhagfyr 2013