Dyn anymwybodol: 'Dim trosedd'

maes parcio a fan heddlu
Image caption Cafodd rhan o'r maes parcio ei gau ddydd Sadwrn wrth i blismyn o Heddlu'r De ymchwilio.

Doedd yna ddim trosedd yn erbyn dyn y daethpwyd o hyd iddo yn anymwybodol yng Ngerddi Soffia, Caerdydd fore Sadwrn yn ôl yr heddlu.

Bu tua chwech o swyddogion Heddlu De Cymru yn chwilio'r ardal ger Pont y Mileniwm, sy'n arwain o Afon Taf i Barc Biwt.

Daethpwyd o hyd i ddyn 24 oed yn anymwybodol yn y maes parcio tua 02.52 yb.

Aethpwyd ag e i Ysbyty Athrofaol Cymru ac apeliodd yr heddlu am wybodaeth, ond maen nhw bellach yn dweud ei fod wedi gwella ac na chafodd trosedd ei chyflawni.

Straeon perthnasol