Mountainous yn ennill Grand National Cymru

Fe gurodd Mountainous (20/1) Hawkes Point (14/1) a Tidal Bay (10/1) mewn diweddglo agos yn Grand National Cymru yng Nghas-gwent.
Llwyddodd y ceffyl trymaf yn y ras wrthsefyll sialens y ddau gyda Paul Moloney ar ei gefn. Yr hyfforddwr yw Richard Lee.
Y ffefryn oedd Highland Lodge, ond er iddo fod ar y blaen am fwyafrif y ras roedd tir trwm y cwrs yn ormod iddo.
One in a Milan (50-1) oedd yn bedwerydd gyda Merry King yn bumed (9-1).
Dywedodd perchennog Mountainous, James Potter: "Rwyf wrth fy modd. Cymry y'n ni ac mae'n wych ennill Grand National Cymru.
"Mae'n ddiwrnod anhygoel i ni - fedra i ddim siarad bron!"