Mark Webster yn curo van Barneveld

Mark Webster Image copyright Getty Images
Image caption Mark Webster yn dathlu ei fuddugoliaeth

Mae Raymond van Barneveld - pencampwr y byd ar bum achlysur - wedi cael ei guro gan y Cymro Mark Webster ym Mhencampwriaeth y PDC eleni.

Collodd yr Iseldirwr o bedair set i air i Webster yn Alexandra Palace yn Llundain yn rownd yr 16 olaf.

Dywedodd Webster, oedd yn bencampwr y BDO yn 2008: "Fe wnes i ddal fy ngafael yn dda tua'r diwedd. Roedd fy ngyrfa yn y fantol cyn y gystadleuaeth yma."

Van Barneveld ddechreuodd orau gan ennill y set gyntaf cyn gwatraffu cyfleoedd wrth ganiatáu i Webster ennill yr ail.

Aeth van Barneveld ar y blaen eto drwy orffen gyda sgor o 110 yn y drydedd, ac er i Webster unioni'r sgor fe gipiodd van Barneveld y bumed i ddod o fewn un set i fynd ymlaen i'r wyth olaf.

Ond roedd y Cymro o Ddinbych yn benderfynol. Fe darodd dwbwl 10 i gipio'r chweched cyn gorffen gyda 120 i ennill y gêm.

Doedd dim cystal hwyl i'r Cymro arall yn rownd yr 16 olaf wrth i Richie Burnett golli 4-3 i Ian White.

Bydd Webster yn wynebu naill ai Gary Anderson o'r Alban neu'r ffefryn o'r Iseldiroedd, Michael van Gerwen, yn rownd yr wyth olaf.