Greenpeace: dechrau gollwng cyhuddiadau

Cyhoeddwyd
disgrifiadWatch footage of the activists trying to haul themselves on to the Gazprom oil platform

Mae'r awdurdodau yn Rwsia wedi gollwng cyhuddiadau troseddol yn erbyn rhai o'r 30 oedd wedi eu cyhuddo o gymryd rhan ym mhrotest Greenpeace yn yr Arctig.

Cafodd 28 o ymgyrchwyr a dau newyddiadurwr eu harestio ym mis Medi wrth iddyn nhw geisio cyrraedd platfform olew.

Ymhlith y chwe ymgyrchwr o Brydain mae Anthony Perrett o Gasnewydd.

Yn wreiddiol, roedden nhw'n wynebu cyhuddiadau o hwliganiaeth ond mae'r 30 wedi cael eu rhyddhau ar amnest yn unol â rheolau deddf newydd ddaeth i rym yr wythnos diwethaf.