Michu allan am chwe wythnos

Michu Image copyright Getty Images
Image caption Bydd yn rhaid i Michu gael llawdriniaeth

Mae Abertawe yn wynebu bod heb eu hymosodwr Michu am chwe wythnos oherwydd llawdriniaeth ar ei bigwrn.

Mae Michu, sy'n 27 oed, wedi sgorio 28 o goliau i Abertawe ers ymuno a'r clwb o Rayo Vallecano yn haf 2012.

"Dyw hyn ddim yn newyddion da,2 meddai Michael Laudrup, rheolwr Abertawe.

"Mae'n anffodus ond rydym wedi derbyn cadarnhad y bydd o angen llawdriniaeth.

"Fe allai gael y llawdriniaeth wythnos nesaf, ac fe ddylai fod yn ôl yn chwarae o fewn mis a hanner.

Daw'r newyddion am absenoldeb Michu yn sgil yr anaf i Nathan Dyer.

Mae'r asgellwr yn debygol o fod allan tan Chwefror ar ôl anafu ei bigwrn yn y gêm yn erbyn Norwich.

Ffenest drosglwyddo

Dywed Laudrup fod yr anafiadau i Michu a Dyer yn ei gwneud yn debygol y bydd yn edrych am ymosodwr yn ystod y ffenestr drosglwyddo ym mis Ionawr.

"Mae nifer yr ymosodwyr ychydig yn isel ac mae hynny yn golygu risg ar gyfer pedwar mis olaf y tymor," meddai Laudrup.

Mae Laudrup wedi dangos diddordeb yn y gorffennol yn ymosodwr Lerpwl Iago Aspas.