Heddlu'n ymchwilio sut y cafodd dyn anafiadau i'w ben

Heddlu
Image caption Cafodd y dyn ei ganfod mewn eiddo yn ardal Ysgubor Goch

Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty wedi iddo gael ei ddarganfod gydag anafiadau i'w ben yng Nghaernarfon nos Sadwrn, Rhagfyr 21.

Cludwyd y dyn i'r ysbyty wedi iddo gael ei ddarganfod mewn eiddo yn ardal Ysgubor Goch.

Rwan, mae heddlu'n apelio am wybodaeth.

Meddai'r Ditectif Arolygydd Steve Williams: "Ar hyn o bryd rydym yn ceisio darganfod o dan ba amgylchiadau ddigwyddodd yr anafiadau yma i'r dyn.

"Hoffwn siarad gydag unrhyw un welodd unrhyw beth amheus yn ardal Ysgubor Goch, Caernarfon, rhwng 5yb a 10yh ddydd Sadwrn, Rhagfyr 21."

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â CID Caernarfon ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.