Pro 12: Dreigiau 11-14 Connacht

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,
Dan Parks yn dathlu ar ôl llwyddo gyda gôl adlam hwyr

Gôl adlam hwyr gan Dan Parks wnaeth sicrhau buddugoliaeth i Connacht yn erbyn y Dregiau nos Sadwrn. Dyma'r tro cyntaf i'r Gwyddelod ennill ers wyth gêm ac mae'n golygu nad nhw sydd rwan ar waelod y tabl.

Cafwyd cais cynnar gan Dan Evans yn yr hanner cyntaf. Y Dreigiau oedd ar y blaen felly o 8-3 ac wedi ail gic gosb gan Jason Tovey yn yr ail hanner y sgor oedd 11-6 i'r clwb o Gymru.

Ond gyda phum munud i fynd cafodd Fionn Carr gais. Wedyn daeth y gôl adlam wnaeth selio ffawd y gêm.

Er na wnaethon nhw ennill mae'r Dreigiau yn aros yn wythfed yn nhabl y Pro 12.

Straeon perthnasol