Dyn wedi ei anafu'n ddifrifol wedi damwain ger Wrecsam

Cafodd dyn ei anafu'n ddifrifol wedi i fan a cherbyd nwyddau trymion daro yn erbyn ei gilydd yn Wrecsam nos Fawrth.

Cafodd tri o griwiau tân a pharafeddygon eu galw i'r digwyddiad ar Deva Way yn Llai ychydig wedi 10:00yh.

Bu'n rhaid defnyddio offer arbenigol i gael y dyn yn rhydd o'r cerbyd.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Maelor yn Wrecsam, ble cafodd driniaeth ar gyfer sawl anaf difrifol.