Mesur Drafft Cymru'n cynnwys y gallu i fenthyg hyd at £500m

David Jones a Paul Silk
Image caption Fe ddaw'r mesur drafft yn dilyn adroddiad Comisiwn Silk

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau i roi pwerau ariannol newydd i Gymru.

Mae'r Mesur Drafft, a gafodd ei gyhoeddi yn San Steffan ddydd Mercher, yn rhoi rheolaeth dros dreth stamp i weinidogion Llywodraeth Cymru, ynghyd â phwerau i fenthyg arian ar gyfer prosiectau mawr fel ffyrdd ac ysbytai.

Bydd y llywodraeth ym Mae Caerdydd yn gallu benthyg hyd at £500m o dan y mesur newydd.

Ar hyn o bryd nid oes gan Lywodraeth Cymru'r hawl i amrywio trethi na benthyg arian, ac mae'n derbyn ei chyllideb mewn un talp gan y Trysorlys.

Gallai'r mesur hefyd arwain at Lywodraeth Cymru'n cael yr hawl i amrywio graddfeydd treth incwm i raddau, ond ni fydd hynny'n medru digwydd tan ar ôl cynnal refferendwm.

Cred rhai o weinidogion San Steffan y bydd y ddeddfwriaeth yn gwneud Llywodraeth Cymru yn fwy atebol ac yn rhoi "mantais gystadleuol" i Gymru.

Mae'r Prif Weinidog David Cameron yn gefnogol i gynnal refferendwm yn gynnar ar ddatganoli treth incwm.

Ond mae rhai o weinidogion Cymru yn credu y gallai'r polisi treth incwm fod yn rhyw fath o drap fyddai'n arwain at doriad yng nghyllideb Cymru gan y Trysorlys.

Aelodau cynulliad

Un peth arall pwysig yn y ddeddfwriaeth newydd yw newidiadau i'r modd y mae aelodau cynulliad yn cael eu hethol, gan wyrdroi'r gwaharddiad ar ymgeiswyr i sefyll mewn etholaethau, ac ar restrau rhanbarthol.

Bydd ACau'n gwasanaethu am dymor o bum mlynedd yn hytrach na phedair, ac ni fydd hawl ganddynt i fod yn ASau ar yr un pryd.

Nodwyd hefyd mai'r enw swyddogol ar y weinyddiaeth fydd Llywodraeth Cymru, yn hytrach na Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Fe ddaw'r Mesur Drafft yn dilyn argymhellion gan Gomisiwn Silk ar bwerau datganoledig, ac ymateb San Steffan i hynny a gyhoeddwyd fis diwethaf.

Ar ôl cyhoeddi'r mesur ddydd Mercher, dywedodd Ysgrifennydd Cymru David Jones AS:

"Bydd y mesur drafft yn galluogi'r llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru i fod yn fwy atebol ac i wneud mwy i gefnogi twf economaidd.

"Trwy'r mesur hwn bydd Llywodraeth y DU yn darparu pecyn uchelgeisiol i Gymru. Ond cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fydd elwa o'r cyfle a symud twf economaidd Cymru yn ei flaen gyda'r pwerau sy'n cael eu cynnig."

'Mwy na £500m'

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad gan ddweud bod hwn yn gam pwysig tuag at roi setliad ariannol gwell i Gymru. Ond mae'r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, eisiau'r gallu i fenthyg mwy.

"Mae'r mesur drafft yn awgrymu y dylai Cymru gael y pŵer i fenthyg hyd at £500m ar gyfer buddsoddi. Mae hynny yn ddechrau da, ond yn ystod fy nhrafodaethau gyda'r Trysorlys yn yr wythnosau nesaf mi fyddaf yn pwyso am fenthyciad mwy."

Mae hefyd yn dweud bod y llywodraeth yn siomedig nad oes unrhyw gyfeiriad at dreth ar deithiau awyren hir wedi'i gynnwys yn y mesur.

Dyna ymateb Plaid Cymru hefyd. Maent yn dweud bod Llywodraeth San Steffan wedi "dewis a dethol" rhai o argymhellion adroddiad Silk.

Yn ôl yr Aelod Seneddol Elfyn Llwyd, fe fydd ei blaid yn cynnig gwelliannau i'r mesur.

"Mae ffraeo mewnol gan Lafur a'r Ceidwadwyr wedi golygu bod y ddwy blaid yn rhoi eu buddiannau eu hunain cyn yr hyn sydd orau i Gymru.

"Fydd Cymru ond yn cael pwerau buddsoddi sylweddol os bydd trefniant rhwng Llywodraeth Cymru a Phrydain ynglŷn â threth incwm yn dod yn realiti. Os na fydd Llywodraeth Lafur Cymru yn pwyso i sicrhau hyn yna mi fydd Cymru yn colli buddsoddiad hanfodol."

Symud y broses ymlaen

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, yn dweud y bydd y mesur yn gorfodi Llywodraeth Cymru i fod yn atebol am yr arian maen nhw'n gwario.

"Mae'n holl bwysig nawr fod y broses yn symud ymlaen cyn gynted â phosib. Bydd gan Gymru lywodraeth sydd yn atebol, rhywbeth y mae pobl Cymru yn ei haeddu.

"Dw i'n cefnogi'n llwyr y refferendwm ar ddatganoli treth incwm ac mi fyddaf yn parhau i annog Carwyn Jones a Llafur Cymru i adael i bobl Cymru gael dweud eu dweud ar y mater."

Yn ôl Mark Williams, Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol, mae'r mesur yn newydd da i Gymru.

"Mae gan y llywodraeth yma record y gallwn ni fod yn falch ohoni ar faterion datganoli ac mae hi nawr yn amser i symud hynny ymlaen ymhellach.

"Mae hi'n neilltuol o bwysig bod pwerau benthyg yn dod i rym cyn gynted â phosib a bod yna fwy o atebolrwydd gan y Cynulliad Cenedlaethol trwy'r pwerau treth incwm."

Er mai ar ffurf drafft mae Mesur Cymru ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn gobeithio y bydd yn ddeddf gwlad cyn etholiad cyffredinol Mai 2015.

Bydd y mesur nawr yn mynd gerbron Pwyllgor Materion Cymreig y senedd yn San Steffan ar gyfer proses graffu fanwl.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.