Iechyd: Sawl her sylweddol

Yn 2013 mae'r gwasanaethiechyd yng Nghymru wedi wynebu sawl her sylweddol, mae galw ar ysbytai yn fwy nag erioed, mae pwysau ariannol mawr anifer o brotestiadau yn erbyn cynlluniau byrddau iechyd i ad-drefnu.

Ein Gohebydd Iechyd Owain Clarke sy'n bwrw golwg ar heriau'r flwyddyn.

iechyd
Image caption Roedd cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion oedd angen gofal brys.

Mae'n wasanaeth sy'n ymfalchïo yng ngallu'r staff i weithio dan bwysau ond ar adegau yn ystod 2013 mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) wedi'i chael hi'n anodd i ymdopi.

Roedd y gaeaf diwetha' yn fwy oer a chaled ac i raddau oherwydd hynny roedd cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion oedd angen gofal brys.

Erbyn mis Mawrth bu'n rhaid i ambiwlansys giwio am oriau a chafodd cannoedd o lawdriniaethau eu gohirio.

Roedd y galw ar ysbytai yn fwy nag erioed. Fe rybuddiodd meddygon brys fod eu hunedau nhw yn agos at y dibyn yn ariannol tra bod byrddau iechyd yn ceisio dod o hyd i arbedion gwerth miliynau o bunnau.

Yn ôl yr economegydd iechyd yr Athro Marcus Longley: "Mae wedi bod yn flwyddyn anodd - a hynny'n bennaf oherwydd y sefyllfa ariannol. Am y drydedd flwyddyn yn olynol mae'r gwasanaeth yn gorfod dod o hyd i fwy o arbedion nag erioed o'r blaen.

"Felly rydyn ni wedi gweld y dirwasgiad a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru i beidio â diogelu cyllid y gwasanaeth iechyd i'r un graddau ag yn Lloegr. Ac mae hynny dros dair blynedd yn sicr wedi bod yn anodd."

Image caption Cafodd Mark Drakeford ei benodi'n weinidog iechyd yn lle Lesley Griffiths

Gweinidog newydd

Pan oedd y pwysau ar y gwasanaeth ar ei waethaf fe gafodd Mark Drakeford ei benodi'n weinidog iechyd.

Mae wedi gweld cyfres o dargedau yn cael eu methu a rhestrau aros yn tyfu ac oherwydd hynny mae'r gwasanaeth iechyd wedi bod yn gocyn hitio gwleidyddol amlwg.

Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi ymosod ar berfformiad y gwasanaeth yn aml yn Nhŷ'r Cyffredin drwy ddweud bod y gwasanaeth iechyd Cymreig yn wynebu argyfwng "yn ddyddiol".

Ond gwrthod y feirniadaeth wnaeth Mr Drakeford a mynnu nad oedd Mr Cameron yn deall yn iawn y sefyllfa yng Nghymru.

Er y gwellodd y tywydd ar ddiwedd y gwanwyn doedd 'na ddim seibiant i'r gwasanaeth iechyd.

Roedd staff yn ardal Abertawe er enghraifft yn ceisio taclo y nifer fwya' o achosion brech goch ym Mhrydain ers blynyddoedd.

Yn y cyfamser, roedd mwy o achosion c.difficile yn y gogledd a hyn yn awgrymu'n gryf wendidau a methiannau difrifol yng ngweithdrefnau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yn beryglus

Ond roedd 'na bryderon ehangach.

Fe rybuddiodd llawfeddygon yn ysbyty mwyaf Cymru, Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, eu bod nhw o'r farn fod rhai o wasanaethau'r ysbyty yn beryglus.

Un o'r prif bryderon oedd cyfraddau marwolaethau uchel ymhlith cleifion yn ne Cymru oedd wedi bod yn aros am lawdriniaeth y galon.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i ymchwilio i safon gofal dau o ysbytai Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi marwolaeth claf oedrannus.

Ac fe gafodd achos llawfeddyg arbenigol ei gyfeirio i'r heddlu. Roedd wedi ei wahardd o'i waith gan Fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod wyth o gleifion oedd dan ei ofal wedi marw yn ddiangen ar ôl cael llawdriniaeth ar yr afu.

Tra bod Llywodraeth Cymru yn mynnu eu bod nhw'n dysgu gwersi oherwydd sgandal Ysbyty Stafford dros y ffin, roedd pennaeth arolygiaeth iechyd Cymru wedi cyfaddef i bwyllgor Cynulliad fod diffyg adnoddau yn golygu na allen nhw fod yn sicr na allai sgandal debyg ddigwydd yma.

Image caption Roedd protestio yn erbyn cynlluniau sawl bwrdd iechyd i ad-drefnu

'Dim digon o amser'

Yn ôl Peter Meredith-Smith o Goleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, mae'r penawdau am y pwysau yn gallu digalonni staff.

"Does ganddyn nhw ddim digon o amser i roi'r gofal i gleifion y bydden nhw wedi dymuno ei roi," meddai.

"Mae hynny yn aml yn golygu bod nyrsys yn gorfod delio â rhwystredigaethau cleifion - nyrsys wedi'r cyfan yw rheng flaen y gwasanaeth iechyd.

"Y peth mwyaf amlwg sydd angen ei daclo yw sicrhau fod digon o staff o'r safon angenrheidiol ar gael i allu darparu'r gwasanaeth y maen nhw'n dymuno ei roi."

Oherwydd y straeon hyn mae rhai, gan gynnwys yr Aelod Seneddol Llafur Ann Clwyd, wedi galw am ymchwiliad pellgyrhaeddol i safonau gofal yng Nghymru.

Mae'r gweinidog iechyd wedi dadlau yn gyson nad oes angen ymchwiliad o'r fath.

Mewn cyfweliad ar raglen The Wales Report BBC Cymru dywedodd Mark Drakeford: "Mae 'na amryw o systemau mewn lle sy'n rhoi sicrwydd i ni fod pethau yn y gwasanaeth iechyd fel y dylen nhw fod ac sy'n rhoi rhybudd cynnar i ni pan fo pethau'n mynd o'i le.

"Ar hyn o bryd rwy'n fodlon fod y systemau hynny yn gweithio ac nad oes angen mynd tu hwnt i'r rheiny.

"Pan fo problemau difrifol yn codi, pan fyddaf yn teimlo bod angen persbectif annibynnol o'r tu allan er mwyn rhoi sicrwydd i gleifion fe wnaf yn siŵr fod hynny'n digwydd."

Sawl rhwystr

Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau ers tro fod angen ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd er mwyn mynd i'r afael â phryderon am safon gofal a heriau eraill.

Ers blynyddoedd mae'r byrddau iechyd wedi bod yn datblygu eu cynlluniau.

Y gobaith oedd y byddai'r cynlluniau'n cael eu gweithredu yn 2013 ond mae'r broses wedi wynebu sawl rhwystr.

Yn y canolbarth a'r gorllewin fe fu'n rhaid i'r gweinidog ymyrryd a gwneud penderfyniadau terfynol ar ôl anghydfod rhwng y bwrdd iechyd a'r cyngor iechyd cymuned lleol.

Yn sgil gwrthwynebiad chwyrn ymgyrchwyr, meddygon a gwleidyddion yn y gogledd fe benderfynodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones adolygu ac ail-lunio cynigion o ran ailwampio gwasanaethau i fabanod sydd angen y gofal mwyaf arbenigol.

Yn y de mae cynlluniau pellgyrhaeddol i ganoli rhai gwasanaethau arbenigol mewn llai o ysbytai mawr wedi cael eu gohirio tan fis Chwefror.

Yn ôl yr Athro Longley, mae hynny'n dangos gwendidau yng ngallu'r gwasanaeth iechyd i argyhoeddi'r cyhoedd bod y newidiadau yn angenrheidiol.

"Dyw'r gwasanaeth iechyd ddim wedi esbonio'n blaen wrth bobl fod yr uned benodol hon neu'r ysbyty penodol hwn ddim yn ddigon da.

"Mae angen newid oherwydd nad yw'n cynnig gofal o'r safon angenrheidiol. Mae cleifion yn meddwl os awn nhw i'r ysbyty y cawn nhw'r gofal gorau posib. Dyw hynny ddim bob tro yn wir.

"Dyw'r gwasanaeth iechyd ddim wedi cyfathrebu'n llwyddiannus â'r cyhoedd. I raddau mae'r gwasanaeth wedi eu cymryd nhw'n ganiataol."

Organau

Er mor anodd oedd y flwyddyn, yr hyn sy'n amlwg yw bod y gwasanaeth iechyd ar draws Prydain yn wynebu problemau tebyg oherwydd bod gofal yn datblygu'n fwy-fwy arbenigol wrth i gleifion fyw'n hŷn.

Ac eleni am y tro cyntaf ers blynyddoedd fe gafodd iechyd swm sylweddol yn ychwanegol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru.

Er bod y newid yn ddadleuol, mae'n deg dweud bod Cymru wedi torri cwys drwy ddeddfu i gyflwyno system fyddai'n cymryd yn ganiataol fod rhywun am roi ei organau oni bai ei fod yn nodi'n bendant ei wrthwynebiad.

Yn ôl Helen Birtwhistle o Gonffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, mae'r mwyafrif helaeth o gleifion yn fodlon ar y gofal y maen nhw'n ei dderbyn.

"Yr hyn yr ydyn ni'n dueddol o anghofio ymysg y penawdau yw bod mwyafrif llethol cleifion yn cael profiadau da iawn.

"Mae staff y gwasanaeth iechyd ar y cyfan wir yn gofalu'n dda ac yn poeni am eu cleifion.

"Does dim esgus os oes 'na ofal gwael sy ddim yn cyrraedd y safonau ond mae'r rhan fwyaf o staff yn mynd i'r gwaith er mwyn cynnig y gofal gorau. Dyna'r flaenoriaeth i bawb."

Os mai 2013 oedd un o'r blynyddoedd mwyaf anodd, y prawf yn 2014 fydd pa mor alluog yw'r gwasanaeth i ymateb i'r heriau.

Straeon perthnasol