Abertawe yn dathlu ond gêm ddi-sgor i Gaerdydd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,
Nathan Dyer yn dathlu ar ôl sgorio

Abertawe 3-0 Newcastle United

Mae Abertawe yn dathlu ar ôl curo Newcastle United o 3-0 yn Stadiwm Liberty.

Roedd Newcastle wedi ennill pedair gêm yn olynol cyn y gêm nos Fercher.

Daeth y gôl gyntaf cyn yr hanner amser gan Nathan Dyer.

Mathieu Debuchy rwydodd yn ei gôl ei hun wedi i Tim Krul arbed ymdrech Jonjo Shelvey.

Ac wedi sawl bygythiad llwyddodd Shelvey i sgorio'r drydedd wedi 80 munud.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Abertawe yn unfed ar ddeg yn y y tabl gyda 18 o bwyntiau.

Dywedodd rheolwr Newcastle Alan Pardew: "Chwaraeodd Abertawe'n wych ac nid oeddwn ni'n ddigon da.

"Fe wnaethon ni ein gorau yn yr ail hanner ond roedd dau benderfyniad yn ein herbyn ni."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Pieters yn rhwystro ymdrech Whittingham

Caerdydd 0-0 Stoke

Gêm ddi-sgor oedd hi rhwng Caerdydd a Stoke sydd yn cael ei rheoli gan y Cymro Mark Hughes.

Roedd yn gêm ddi-fflach ar y cyfan heb arwydd yn aml y byddai un o'r ddau dîm yn sgorio yn ystod y 90 munud.

Ond yn y munudau ola' roedd Stoke bron â sgorio ond llwyddodd Marshall i arbed ymgais Adam.

Y pen arall Begovic rwystrodd Declan John rhag sgorio i Gaerdydd.

Cafodd pedwar chwaraewyr gerdyn melyn, Crouch, Adam, Turner a Campbell.

Dywedodd Mark Hughes: "Fe wnaethon ni reoli'r gêm yn dda. Ni oedd y rhai oedd yn debygol o sgorio.

"Roedd y canlyniad yn siomedig."

Dywedodd rheolwr Caerdydd Malky Mackay: "Roedden ni'n haeddu'r pwynt.

"Roedd hi'n mynd i fod yn her ac fe gafon ni ychydig o gyfleoedd."