Gwrthdrawiad: bachgen 14 oed mewn cyflwr difrifol

Mae bachgen 14 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghwmbrân ddydd Gwener.

Digwyddodd y ddamwain am tua 5.40pm nos Wener ar ffordd Ty Gwyn wrth ymyl ffarm gymunedol Greenmeadow.

Dywed yr heddlu bod gwrthdrawiad wedi bod rhwng cerbyd a'r bachgen ifanc oedd yn cerdded.

Gofynnir i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda'r heddlu trwy ffonio 101 gan roi'r rhif 381 29/11/13.