Dynes 72 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn y Rhymni.

Published
image captionDynes wedi ei lladd mewn gwrthdrawiad yn Rhymni.

Mae dyn 77 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o yrru yn ddiofal wedi gwrthdrawiad yn y Rhymni ddydd Gwener.

Cafodd Heddlu Gwent a'r gwasanaethau Tân ac Ambiwlans eu galw i wrthdrawiad ffordd ddifrifol ar Stryd Moriah, Rhymni am 15.09 brynhawn Gwener.

Bu farw dynes 72 oed sydd yn lleol i'r ardal.

Ni chafodd ydyn oedd yn gyrru'r cerbyd ei anafu. Dywedodd Heddlu Gwent ei fod yntau yn ddyn lleol.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r ddamwain i gysylltu ar 101 a rhoi rhif log 247 29/11/13.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol