Ian Evans yn gadael y Gweilch

Dywed deiliaid Cwpan Heineken Toulon eu bod wedi arwyddo clo Cymru Ian Evans.
Yn ôl gwefan y clwb mae o wedi arwyddo cytundeb tair blynedd a bydd yn symud i Ffrainc o'r Gweilch pan ddaw ei gytundeb presennol i ben yn haf 2014.
Evans yw'r ail chwaraewr rhyngwladol i gyhoeddi yn yr hydref ei fod yn symud i Ffrainc.
Ar Dachwedd 12 fe gyhoeddodd canolwr y Scarlets Jonathan Davies ei fod wedi arwyddo cytundeb gyda Clemont Auvergne.
Mae Evans, sydd wedi ennill y Gamp Lawn ddwy waith, wedi ei ddewis yn nhîm Cymru i wynebu Awstralia yng Nghaerdydd dydd Sadwrn.