Damwain ffordd: Dynes ifanc wedi marw ym Modelwyddan

Mae dynes ifanc wedi marw oherwydd damwain ffordd yn Ffordd Abergele ym Modelwyddan.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 8.15am wedi damwain rhwng fan Mercedes, car Vauxhall Corsa gwyn a cherddwr.

Bu farw'r cerddwr lleol, dynes ifanc 18 oed, yn y fan a'r lle ac mae ei theulu wedi cael gwybod.

Mae gyrrwr y fan wedi cael ei arestio a chafodd gyrrwr y Corsa ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd y byddai ymchwiliad i'r gwrthdrawiad.

Dylai gyrwyr osgoi'r ardal am gyfnod.

Gall unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 a dyfynnu cyfeirnod P194123 neu ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.