Archif Gorllewin Morgannwg yn prynu dogfennau gwaith haearn

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Archifau Prydeinig
Disgrifiad o’r llun, Cafodd y llun hwn o'r gweithwyr ei dynnu tua 1870
Ffynhonnell y llun, The National Archives
Disgrifiad o’r llun, Fe gaeodd y gwaith yn 1885
Ffynhonnell y llun, Archifau Prydeinig
Disgrifiad o’r llun, Cynllun ar gyfer trên yng Ngwaith Haearn Nantyglo, 1854
Ffynhonnell y llun, Archifau Prydeinig
Disgrifiad o’r llun, Cynllun ar gyfer trên yng Ngwaith Haearn Nantyglo, 1854
Ffynhonnell y llun, Archifau Prydeinig
Disgrifiad o’r llun, Un o weithwyr y gwaith ysgrifennodd nodiadau yn Dover am gerbyd fyddai'n croesi'r sianel
Ffynhonnell y llun, The National Archives
Disgrifiad o’r llun, Manylion ar gyfer peiriannau'r Ancient Briton, llong oedd yn hwylio rhwng Bryste ac Abertawe o 1822 ymlaen

Mae Archif Gorllewin Morgannwg wedi prynu mwy o 8,000 o ddogfennau sy'n taflu golau ar waith haearn.

Roedd gwaith Abaty Nedd yn cynhyrchu trenau pan oedd rheilffyrdd yn cael eu codi.

Dywedodd yr archifydd Kim Collis: "Mae'r dogfennau'n brin ac yn rhan bwysig o'r Chwyldro Diwydiannol."

Cafodd y ffowndri ei chodi 1792 a'i phrydlesu i gwmni o Grynwyr, Fox a'r Cwmni o Falmouth yng Nghernyw.

Roedd y gwaith yn ei anterth pan oedd rheilffyrdd a llongau stêm yn cael eu datblygu.

Yn y cyfamser, daeth Abertawe a Chastell-nedd yn ganolfannau pwysig o ran cynhyrchu metel.

'Adnodd'

Cynhyrchodd y gwaith haearn drenau, peiriannau llongau, peirianwaith ar gyfer gweithiau nwy a pheiriannau weindio dan ddaear.

Dywedodd Ms Collis: "Tra oedd llawer o fasnachu yn ne Cymru, roedd llawer o archebion o wledydd Prydain, Mecsico a De America.

"Mae'r dogfennau'n adnodd heb ei ail ar gyfer rhai sy'n ymddiddori yn nhechnegau cynhyrchu, mwyngloddio, a hanes trafnidiaeth a diwydiant yng Nghymru.

"Ac maen nhw'n dystiolaeth o safon uchel gweithwyr y ffowndri."

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol