Dyn oedrannus wedi'i ladd mewn tân yng Nghastell-nedd

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 8:00yb ddydd Sul

Mae dyn 81 oed wedi cael ei ladd ar ôl tân mewn tŷ yng Ngastell-nedd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r eiddo ar Stryd Whittington am 8:00yb ddydd Sul, wedi adroddiadau bod tân wedi cynnau yn yr adeilad.

Cadarnhaodd yr awdurdodau fod y dyn wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae Heddlu De Cymru, ynghyd â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i geisio darganfod achos y tân.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol