Wrecsam 2-0 Forest Green

Wrecsam 2-0 Forest Green
Fe sgoriodd y chwaraewr-reolwr Andy Morrell gôr agoriadol wych wrth i Wrecsam hawlio eu chweched buddugoliaeth o'r bron gartre'.
Fe rwydodd Morrell groesiad gan Robert Ogleby wedi hanner awr o chwarae.
Roedd Morrell wedi dod ymlaen fel eilydd wedi anaf i Brett Ormerod.
Seliodd Johnny Hunt y fuddugoliaeth o 2-0 gyda'i droed chwith chwe munud yn ddiweddarach.