'Norofirws': Cau ysgol gynradd yng Nghyffordd Llandudno
- Cyhoeddwyd

Mae ysgol gynradd yng Nghyffordd Llandudno ar gau ar mwyn i arbenigwyr lanhau'r adeilad, oherwydd salwch stumog.
Yr wythnos hon, mae dros 100 o ddisgyblion a staff yn Ysgol Nant y Coed wedi eu taro'n wael, ac yn dioddef o symptomau'r salwch.
Mae gan yr ysgol 151 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae disgwyl iddi ail agor ddydd Llun.
Does dim adroddiadau fod yr anhwylder wedi lledaenu i ysgolion eraill yn yr ardal.
Dim profion labordy
Meddai Jo Black o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Gan bod pobl yn dioddef o gyfogi a dolur rhydd, mae'n anodd iawn i ni gasglu samplau. Dydyn ni heb gynnal unrhyw brofion labordy. Oherwydd natur yn anhwylder, mae'n debyg iawn mai norofirws yw'r achos."
Pwysleisiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru mor bwysig yw golchi dwylo a glanhau handlenni drws. Mae Ysgol Nant y Coed wedi anfon llythyr at rieni, yn eu cynghori ar sut i rwystro'n firws rhag lledu ymhellach.