Arddangos cynlluniau pwll glo newydd

Glo
Image caption Byddai'r glo yn cael ei ddefnyddio yn ffatri ddur Tata ym Mhort Talbot a phwerdy Aberddawan ym Mro Morgannwg

Bydd cynlluniau ar gyfer pwll glo agored newydd yn Nant Llesg yn cael eu harddangos i'r cyhoedd yn hwyrach.

Bwriad cwmni Miller Argent yw creu glofa newydd nid nepell o Ffos y Fran, uwchlaw tre Rhymni, gan greu 239 o swyddi llawn amser newydd.

Mae Miller Argent yn honni y byddan nhw'n buddsoddi £13 miliwn yn y pwll glo bob blwyddyn ac yn creu cronfa ar gyfer buddsoddi mewn prosiectau cymunedol.

Ond mae gwrthwynebiad chwyrn i'r cynllun yn lleol, gyda rhai busnesau'n dadlau y bydd yn atal buddsoddiad i'r ardal.

Busnesau yn gadael?

Fe wnaeth y grŵp ymgyrchu y Green Valleys Alliance gomisiynu ymchwil y maen nhw'n honni sy'n dangos y gallai'r pwll glo newydd "effeithio ar ragolygon buddsoddi mewnol yn y dyfodol".

Yn ôl ymchwil Prifysgol Caerdydd byddai "presenoldeb pwll glo agored yn annhebygol o helpu gyda marchnata ardal pen y cymoedd fel lleoliad a'r ymdrechion i arddangos asedau naturiol yr ardal ehangach".

Mae cwmni colur Richards and Applebey sy'n cyflogi 140 mewn ffatri ar stad ddiwydiannol yno, yn dweud y bydd rhaid iddyn nhw symud os yw'r pwll glo yn cael caniatâd i'w adeiladu.

Dywedodd cyfarwyddwr y cwmni Mitchel Field, sydd hefyd yn bennaeth ar y Green Valleys Alliance: "Pan ddaethon ni yma y rheswm oedd oherwydd bod yr amgylchedd yn hollol berffaith ar gyfer cynhyrchu.

"Aer gwych, dwr da, staff arbennig - dyna pam ddaethon ni yma.

"Wrth agor pwll glo newydd byddai llawer o'r buddianau yna yn mynd."

'Dim sail' i'r pryderon

Mae Miller Argent sy'n cyflogi 200 o bobl ym mhwll glo agored Ffos-y-Fran ger Merthyr Tudful, ac maen nhw'n dweud nag oes sail i'r pryderon.

Dywedodd cyfarwyddwr y cwmni, Neil Brown: "Mae gennym brofiad o weithio gerllaw busnesau lleol a chymunedau heb unrhyw effeithiau andwyol o gwbl.

"Roedd pryderon tebyg ynglŷn â phrosiect Ffos-y-Fran ac nid oedd sail iddyn nhw.

"Rydym yn deall pryderon y gymuned ac rydym wedi siarad yn helaeth gyda'r cymunedau lleol.

"Mae rheolau llym iawn sy'n llywodraethu'r amgylchedd ac rydym wedi cael ein dosbarthu i fod yn risg isel gan gyngor Merthyr a Chaerffili sy'n ein monitro ni'n rheolaidd."

Cyngor Caerffili fydd yn penderfynu os dylid bwrw 'mlaen gyda'r cynlluniau.

Fe fyddan nhw'n cynnal cyfres o arddangosfeydd fydd yn dechrau o 19 Tachwedd.

Bydd arddangosfeydd yn cael eu cynnal ar:

  • Dydd Mawrth Tachwedd 19, Canolfan Gymunedol Abertyswg;
  • Dydd Mercher, Tachwedd 20, Canolfan Gymunedol Rhymni;
  • Dydd Mawrth Tachwedd 26, Canolfan Gymunedol Fochriw;
  • Dydd Iau, Tachwedd 28, Neuadd Eglwys Gymunedol Elim, Pontlotyn.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.