Hollie McClymont: Marwolaeth ddamweiniol
- Cyhoeddwyd

Aeth Hollie McClymont ar goll ger Ynys y Barri ym mis Gorffennaf
Mae cwest i farwolaeth merch 14 oed wnaeth foddi ger Ynys y Barri wedi penderfynu mai damwain oedd ei marwolaeth.
Aeth Hollie McClymont, o Glasgow, ar goll wrth nofio yn y môr ym Mae Whitmore ym mis Gorffennaf.
Roedd Hollie yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd St Thomas Aquinas, Glasgow, ac roedd hi wedi bod ar wyliau yn ymweld â theulu yn yr ardal.
Cafodd ei gweld yn nofio yn y môr yn ystod y tywydd braf.
Ond clywodd y cwest ei bod hi wedi mynd i drafferthion yn y môr, a bod hyd at awr wedi pasio tan fod rhywun wedi galw am gymorth.
Cafodd ei chorff ei ddarganfod deuddydd yn ddiweddarach ym mhentref Ffont-y-Gari ym Mro Morgannwg.
Roedd 40 o swyddogion yr heddlu wedi bod yn chwilio amdani, yn ogystal â hofrennydd a Gwylwyr y Glannau.
Straeon perthnasol
- 10 Gorffennaf 2013